Sul y Tadau gwych yng nghanol dinas Abertawe.
Cynhelir Sioe Cerbydau Clasurol Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sul 17 Mehefin 2018 rhwng 10.30am a 4pm.
Mae BID Abertawe’n gyffrous i gyflwyno digwyddiad am ddim newydd i ganol dinas Abertawe ar gyfer 2018. Bydd y digwyddiad newydd, Sioe Cerbydau Clasurol Abertawe 2018, yn adeiladu ar waith da ac ymroddiad yr Ŵyl Gludiant a ddaeth i ben yn 2016. Yn ei hanterth, roedd yr ŵyl yn denu mwy na 400 o gerbydau a thros 4,000 o ymwelwyr o bob rhan o’r rhanbarth a thu hwnt.
Mae BID Abertawe’n gobeithio efelychu’r poblogrwydd hwn a symud y digwyddiad yn ei flaen o 2018 er mwyn cadarnhau bod y digwyddiad yng nghanol dinas Abertawe yn un o’r rhai mwyaf yn y DU.
Bydd digonedd o amrywiaeth ar gael i newydd-ddyfodiaid a’r sawl sy’n frwdfrydig, gan gynnwys ceir, beiciau modur, sgwteri, cerbydau masnachol a llawer mwy – wedi’u gwasgaru ar draws canol y ddinas o Sgwâr y Castell ar hyd Stryd Rhydychen a’r ffyrdd i gerddwyr gerllaw.
Wrth i chi fwynhau’r cerbydau clasurol, mae gennych hefyd gannoedd o siopau, barrau, siopau coffi a bwytai i brynu eich anrheg Sul y Tadau ac i fwynhau pryd o fwyd i ddathlu’r diwrnod.
Diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan!
* Parcio am ddim ym mhob maes parcio’r cyngor yng nghanol y ddinas *
Am fwy o wybodaeth, gwelwch www.swanseaclassicvehicle.show