Bydd y dosbarthiadau meistr yn rhan allweddol o’r ŵyl, felly rydym wedi dod â rhai o’r tiwtoriaid gorau ym maes tecstilau i Amgueddfa Abertawe, bob dydd rhwng 10 a 24 Awst. Bydd y dosbarthiadau rhwng 10am a 4pm, yn costio £30 y diwrnod a byddwch yn sicr o dreulio diwrnod arbennig yn dysgu sgiliau newydd ac yn cwrdd â phobl o’r un meddylfryd.
Rydym eisoes wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer pedwar ohonynt ond mae rhai dosbarthiadau meistr arbennig yn dal i fod ar gael. Yn ystod y diwrnod agoriadol, sef dydd Gwener 10 Awst, bydd Georgina Newson, aelod o Cwilt Cymru, yn dangos sut i greu lliain sy’n foethus o ran gweadwaith a haenau. Bydd yn defnyddio lliwiau, tynnu lliwiau, stensilio a gwneud marciau, gan bwysleisio technegau y gellir eu defnyddio yn y gegin gartref heb offer drud neu lawer o wagle. Bydd yn defnyddio’r môr fel ‘ysbrydoliaeth’ ond gall y technegau gael eu defnyddio i gyd-fynd ag unrhyw thema neu her.
Ar benwythnos 11 a 12 Awst, bydd Jennifer Collier yn dangos ei sgiliau papur a phwytho arbennig i ni yn yr amgueddfa. Bydd y gweithdy ardderchog hwn yn cyfuno technegau arbrofol nodweddiadol Jennifer â thechnegau brodwaith traddodiadol. Ar y diwrnod cyntaf, byddwch yn creu arwynebau trwy ddefnyddio cwyr, trapio, haenu a gwreiddio ym mhlastigion a phapur. Yn ystod yr ail ddiwrnod byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau â llaw ac â pheiriant er mwyn addurno’r gwaith a thrawsnewid pentwr o bapur yn sampleri prydferth. Mae papur yn arwyneb ardderchog i weithio arno a bydd Jennifer yn gwneud i chi feddwl amdano fel arwyneb gwych ar gyfer pwytho.
Gallwch weld gwaith gwych Susie Vickery ddydd Mawrth, 14 Awst. Defnyddiwyd ei phortreadau trawiadol yn ein hysbysebion gan eu bod yn mynnu sylw. Mae Susie wedi bod yn canolbwyntio ar waith datblygu a brodwaith celfyddyd gain dros y deng mlynedd diwethaf, a bydd yn dangos sut i frodio portread o unigolyn trwy ddefnyddio ffotograff o wyneb person. Bydd yn ddiwrnod llawen o bwytho â llaw trwy ddefnyddio hirbwyth er mwyn creu delwedd eiconig.
Bydd yn ddiwrnod o archwilio a defnyddio lliwiau mewn ffordd gyffrous iawn ddydd Mercher, 15 Awst. Mae gwaith ffelt Mary-Clare Buckle yn llawn lliwiau llachar a bydd yn eich helpu i weithio mewn ffordd rydd trwy ddefnyddio cnu, sidan, lliain a ffibrau eraill er mwyn creu panel bach. Gofynna i chi ddod â rhywbeth sy’n eich ysbrydoli chi, yna bydd yn eich helpu i ffurfio’ch cyfansoddiad trwy ddefnyddio technegau ar haenau a chyfuniadau o liwiau a thonau.
Bydd Ruth Norbury yn dangos i’w myfyrwyr sut i greu un o’i hadar arbennig wedi’u pwytho â llaw ar 19 Awst. Mae clochdar y cerrig (Stonechat) yn ddarn ardderchog o gelf tecstilau ac rydym yn siŵr y byddwch yn teimlo bod arweiniad Ruth yn rhoi’r cyfle i chi greu eich campwaith eich hun.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Carol Bartlett ar gyfer ein dosbarthiadau meistr ddydd Mawrth, 21 Awst a dydd Mercher, 22 Awst. Mae’n ymddiddori yn y gorffennol ac mae’n gofyn i ni ddod â llun o’n hanes personol ni fel ysbrydoliaeth. Mae ei sampl hi’n llun o daith gyntaf y teulu i Gernyw ym 1970 wedi’i hail-greu’n ofalus. Bydd yn eich arwain trwy ddewis defnyddiau ac addurnau er mwyn rhoi ymdeimlad traddodiadol i’ch gwaith a bydd yn helpu i wella eich pwytho â pheiriant a’ch pwytho â llaw. Byddwch yn falch iawn o’ch eiddo etifeddol hanesyddol eich hun! Sylwer y byddwn yn derbyn taliadau siec yn unig ar gyfer y newid hwyr hwn (ceir manylion ar wefan y blog) ond gallwch e-bostio contact@swanseafestivalofstitch.co.uk os oes problem.
Bydd ein dosbarth meistr olaf gyda Christine Chester ddydd Iau, 23 Awst. Bydd Christine yn canolbwyntio ar y gwaith dylunio sy’n ein harwain at droi syniadau yn baent neu’n bwythau ar ffabrig. Mae’n defnyddio creigiau a cherrig mân er mwyn dangos amrywiaeth enfawr o batrymau a gweadau i’n hysbrydoli. Yn ystod y diwrnod, trafodir ffyrdd o ddylunio trwy ddefnyddio’ch lluniau o greigiau a cherrig mân, a dulliau er mwyn troi eich dyluniadau’n brintiau ar ffabrig. Byddwch yn dysgu am dechnegau dylunio i’w defnyddio yn y dyfodol a byddwch yn mynd â ffabrig sy’n barod i’w bwytho gyda chi.
Bydd y dosbarthiadau meistr anhygoel hyn yn rhoi’r cyfle i chi ymuno â rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus y DU yn Abertawe. Bydd Amgueddfa Abertawe’n cynnal y dosbarthiadau i gyd ac mae’r pris, £30 y diwrnod, yn rhesymol iawn, felly peidiwch â cholli’ch cyfle! www.swanseafestivalofstitch.co.uk