18 ac 19 Awst | Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ar ein penwythnos prysuraf, rydym mor ffodus i fod yn croesawu grŵp hyfryd o wneuthurwyr a masnachwyr i’n marchnad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gyda chynnyrch Cymreig nodweddiadol.
Willow Moon Cottage: Mae www.facebook.com/Willowmoon.Cottage.Crafts yn gwneud casau ar gyfer ffonau, sbectolau a thabledi sydd ychydig yn wahanol – maent yn cynnwys printiau o adar, anifeiliaid a phlanhigion.
Henbethau: Mae henbethau.co.uk yn gwneud eirth, eliffantod a theganau cywrain eraill, blancedi Cymreig ac eiddo etifeddol arbennig, hardd.
Holly Hart: www.facebook.com/hollyharttextiles Mae Holly yn gwneud darnau celf tecstilau a phapur unigryw sy’n adlewyrchu harddwch a chymeriad y byd naturiol.
Bydd Mandy Nash www.facebook.com/mandy.nash.56 yn cynrychioli Ardal 12 Cymdeithas Ryngwladol y Ffeltwyr. Mae Mandy yn wneuthurwraig brofiadol sydd â diddordeb mewn lliw, patrwm a thechneg a gellir gweld hyn yn glir yn ei hategolion/croglenni gemwaith a ffelt.
Catrin Saywell www.catrinsaywell.co.uk/ Mae gwaith Catrin yn feiddgar ac yn lliwgar, gan gynnwys cysgodlenni ac eitemau llai megis bagiau, pyrsiau, dolenni gwallt a chardiau.
Mabli Jack www.etsy.com/uk/shop/MabliJack Mae Ruth yn canolbwyntio ar greu bagiau ac ategolion â ffelt a lliain Prydeinig ynghyd ag ategolion cartref sydd â menywod Cymreig ciwt arnynt.
Natasha Morgan: www.etsy.com/uk/people/NatashaMorgan Mae Natasha yn wneuthurwraig doliau celf ac mae pob un ddol yn unigryw. Mae hi hefyd yn creu ‘doliau clytwaith blonegog’ a ‘chwiltiau appliqué doliau celf’.
Pat Johnson: www.patjohnson.co.uk Mae Pat yn artist ffelt lleol adnabyddus iawn ac mae hi’n defnyddio’r gwlân merino gorau’n unig, ynghyd ag olew olewydd, sebon a dŵr i wneud bagiau llaw gweadog hyfryd.
Sew Lovely ym Mhenarth: Bydd www.sewlovelypenarth.com yn arddangos gwaith unigryw’r perchennog, Carol Bartlett, sy’n ailgreu golygfeydd gyda chymysgedd o hen ddefnyddiau, lesys ac addurnau wedi’u gwehyddu gyda’i gilydd gan ddefnyddio brodwaith peiriant â llaw.
Miss Clementine: www.facebook.com/vintagemissclementine Mae Miss Clementine yn trawsnewid tecstilau, edeifion ac eitemau cartref anghofiedig yn ddarnau addurniadol hardd o gelf.
Traders Karen’s Quilts: www.karensquilts.co.uk Bydd Karen yn dod o ganolbarth Cymru i ymuno â ni a bydd hi’n dod â defnydd i’w dorri ar gyfer cwiltio gyda hi. Mae gan Karen ei phecynnau dylunio cwiltiau ei hun hefyd ac mae’r rhain yn ffordd wych o ddechrau eich taith gwiltio.
Fiery Felts: www.fieryfelts.co.uk Daw Helen Melvin o Ogledd Cymru ac mae hi’n defnyddio lliwiau naturiol i greu ei ffibrau ffeltiog. Mae Helen hefyd yn creu inciau botanegol y gellir eu defnyddio i liwio defnydd ynghyd â phapurau.
Treskilion Yarns: www.triskelion-yarn.com Mae Treskilion yn Sir Gâr ac mae eu hedafedd wedi’u lliwio mewn pot, sy’n cynhyrchu amrywiaeth bywiog a chyffrous o ffibrau. Mae gan yr edeifion liwiau tywyll a dwys ac mae’n siŵr y byddant yn difyrru gwewyr.
Flying Goose Quilting www.flyinggoosequilting.co.uk are a husband and wife team from Llandeilo who are bringing a wonderful selection of quilting and sewing fabrics.
Happidashery: www.facebook.com/happidasherys15/ Mae Happidashery yn The Model House yn Llantrisant ac mae’n gyrchfan gwych ar gyfer cwiltio. Mae llawer o ddefnyddiau ac eitemau ar gyfer pobl sy’n dwlu ar gwiltio yma a, gobeithio, bydd llawer o fanion gwnïo i ddifyrru’r gweddill ohonom.
White Gecko Craft Lounge: Mae www.whitegeckocraftlounge.co.uk yn teithio i’r holl sioeau mawr megis The Knitting and Stitching yn Llundain a Festival of Quilts yn Birmingham. Bydd ganddynt fetrau o ddefnyddiau a phecynnau arbennig i gwiltwyr.
Helen Rhiannon: www.helenrhiannon.com Mae Helen yn rheoli siop ddefnyddiau ac yn cynnal gwersi o dan yr enw All Sewn Up Wales, ond mae hi hefyd yn ddylunydd sydd wedi dylunio dillad ar gyfer enwogion. Yn ogystal â defnyddiau, mae gan Helen becynnau ar gyfer amrywiaeth o anifeiliaid swynol.
Heartfelt 2 Inspire: www.heartfelt2inspire.co.uk Rachel a Katrina yw Heartfelt 2 Inspire ac maent yn ardal Castell-nedd. Mae ganddynt lawer o ffibrau ffeltio a phecynnau bendigedig.
Gower Yarns: Mae www.goweryarns.co.uk yn Sgiwen ac mae ganddynt amrywiaeth mawr o nwyddau tecstilau, gan gynnig rhywbeth i bawb. Rosa Threads: Mae Rosa yn gwerthu edeifion brodwaith, yn enwedig yr edeifion amlbwrpas Coton a Broder sydd ar gael mewn llawer o liwiau hyfryd.
Rydym hefyd yn falch o fod yn croesawu Mike o Cliffords Sewing Machines https://www.facebook.com/Cliffords-Sewing-Machines-Ltd-461134860757868 a fydd yn dod â rhai peiriannau ac yn arddangos hefyd!
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n penwythnos prysuraf ar 18 ac 19 Awst pan gynhelir y Farchnad i Wneuthurwyr a Masnachwyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yr Arddangosfa Gwiltio yn y Ganolfan Hamdden a’r Siop Sgiliau ar Ffordd y Dywysoges ynghyd â’n holl arddangosfeydd. Bydd llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud!!
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Gŵyl Bwytho Abertawe www.swanseafestivalofstitch.co.uk