Date/Time:
Date(s) - 31/10/2018
6:00 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Profiad castell bwganllyd cyntaf Abertawe… dewch os rydych yn ddigon dewr!
Slot amser 2: 7.15pm – 8pm
Slot amser 3: 8.25pm – 9.15pm
Bydd y profiad yn para tua 25-30 munud.
Gallwch gyrraedd unrhyw bryd o fewn eich slot amser ond byddwch yn barod i aros eich tro – caiff grwpiau fynediad fesul un, bob ychydig funudau.
__________________________________________________
Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel bob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.
Gan droedio’n ofalus, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o amgylch pob cornel? Gyda’r goleuadau wedi’u diffodd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw? A ydych yn ddigon dewr i ganfod mwy?
Beth bynnag y byddwch yn ei wneud, peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen!
Os rydych yn ddigon ffodus i ddod o hyd i’r ffordd allan, byddwch yn derbyn siocled poeth yn y Babell Cyfeillion.
Yn addas i blant 8+ oed | Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
*Tocynnau: £6 y person (gan gynnwys siocled poeth) | Rhaid cadw lle ymlaen llaw – yn anffodus, ni ellir derbyn pobl sydd heb docyn ar y diwrnod
*Sylwer – bydd yn rhaid i chi argraffu’ch cadarnhad o gadw lle a’i gyflwyno wrth gyrraedd er mwyn i chi gael mynediad.
_____________________________________________________
Mae’n arswydus, felly byddwch yn wyliadwrus…
- Yn addas i blant 8+ oed | Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- Bydd y profiad yn cynnwys goleuadau laser/strôb, peiriannau mwg, mannau cul gyda goleuadau isel, lloriau anwastad (gwisgwch esgidiau addas), rhai grisiau serth a choridorau cul oherwydd natur y lleoliad, effeithiau aroglau, seiniau/cerddoriaeth iasol ac actorion a all geisio codi ofn arnoch ond ni fyddant yn eich niweidio!
- Mae croeso i chi gysylltu â’r lleoliad os oes gennych unrhyw gwestiynau am addasrwydd y digwyddiad ar eich cyfer chi neu’ch teulu – erika.kluge@swansea.gov.uk
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English