Date/Time:
Date(s) - 01/12/2018 - 24/12/2018
All Day
Location: Marchnad Abertawe
Mae Marchnad arbennig Abertawe’n gwasanaethu cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn, a dewch o hyd iddi yng nghanol y ddinas.
O dan ei chromen fawr, mae masnachwyr Marchnad Abertawe’n cynnig croeso cynnes a’r bwydydd gorau a mwyaf ffres ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd.
Mae ein cigyddion yn cynnig y dewis gorau o gigoedd o safon a gallwch archebu twrci nawr i osgoi prysurdeb y Nadolig! Os ydych am ddewis bwydlen
wahanol, mae ein gwerthwyr pysgod a’n stondinau llysiau a ffrwythau wrth law gyda chynhwysion ffres a chynnyrch lleol.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddewis gwych o addurniadau ac anrhegion Nadolig i’r teulu cyfan. Felly am yr holl bethau y mae eu hangen arnoch am eich Nadolig perffaith, nid oes rhaid edrych ymhellach na Marchnad Abertawe!
Ar agor 7 niwrnod yr wythnos tan Noswyl y Nadolig.
Dydd Llun i ddydd Sadwrn – rhwng 8am a 5.30pm; dydd Sul – rhwng 10am a 5pm
Oriau Wythnos y Nadolig:
Dydd Sadwrn, 22 Rhagfyr – 7.00am i 5.30pm
Noswyl Nadolig – 7.00am i 4.00pm
Nos Galan – 7.00am i 4.00pm
Amser Cystadleuaeth – Cymerwch hunlun gyda Siôn Corn!
Mae coblynnod Siôn Corn wedi dosbarthu’r orsaf hunlun arbennig hon o Begwn y Gogledd er mwyn rhoi’r cyfle i siopwyr Marchnad Abertawe ennill twrci blasus ar gyfer y Nadolig! Mae’r coblynnod eisiau gweld eich llun gyda Siôn Corn, felly ewch i’r Orsaf Hunlun yng nghanol y Farchnad, postiwch eich llun a thagiwch ni ar Drydar @marchnadaber neu Instagram @marchnad_abertawe gyda’r hashnod #HunlunSiônCorn er mwyn cael cyfle i ennill!
Am fanylion pellach, ewch i:
- swanseaindoormarket.co.uk
- 01792 654296
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English