Rydym wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Angylion Treftadaeth eleni sy’n dathlu pobl sy’n gwneud gwahaniaeth i dreftadaeth Cymru. Mae’r Oriel wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘Yr enghraifft orau o adfywio adeilad hanesyddol ar raddfa fawr ar gyfer prosiectau’n costio mwy na £5m’. Yn dilyn yr ailddatblygiad, mae’r Oriel yn hygyrch ac yn agored i bawb a bellach mae angen eich pleidlais arni er mwyn iddi ennill gwobr gyhoeddus.
Pleidleisiwch yma: tudalen bleidlais y gwobrau (pleidleisio’n gyfyngedig i un bleidlais y person). Mae’r cyfle i bleidleisio’n dod i ben am hanner nos ar 4 Tachwedd, a chyhoeddir enillydd y bleidlais gyhoeddus yn seremoni Gwobrau Angylion Treftadaeth Cymru ar 8 Tachwedd yn Neuadd Fawr Castell Caerffili. Diolch yn fawr!