Dathlwch hwyl y Nadolig yn y Cwadrant eleni trwy ymweld â lleoliad siopa mwyaf poblogaidd y ddinas a dewch i gasglu popeth y mae ei angen arnoch yn ystod y cyfnod hudolus hwn o’r flwyddyn.
Gyda chynifer o frandiau gwych at bob chwaeth, bydd rhywbeth at ddant pawb. Dechreuwch gyda Boots, daw eu cynnig o ‘3 am bris 2’ â disgleirdeb ychwanegol i’r hosanau Nadolig hynny – p’un ai casgliad Sporty & Fresh Ted Baker, pecyn o roddion Soap & Glory, Spa Sanctuary mewn jar neu becyn teithio chwaraeon Superdry ar gyfer dynion sy’n mynd â’ch bryd, bydd rhywbeth i bawb.
Nid yw’r Nadolig yn gyflawn heb bartïon! Mae Canolfan Siopa’r Cwadrant yn cynnig amrywiaeth gwych o ffasiwn, felly nid oes unrhyw esgus i chi beidio â disgleirio a sgleinio wrth i chi ddawnsio gyda’r hwyr!
Am drîts moethus, mae gan Debenhams y colur, y ffasiwn a’r brandiau esgidiau gorau, gan gynnwys MAC, YSL, Estée Lauder, Dune a Coast. Mae cael egwyl harddwch sydyn cyn noson allan yn hanfodol a chyda Glamour Forever, does dim byd gwell.
Oes angen ysbrydoliaeth ar gyfer rhywbeth ychydig yn wahanol arnoch? Mae gan siop newydd Canolfan Siopa’r Cwadrant, Menkind, y syniadau mwyaf gwreiddiol a hynod o ran anrhegion iddo fe neu hi. Fel arall, galwch heibio Thornton’s lle cewch ddanteithion siocled blasus wedi’u haddurno â negeseuon personol i ddangos faint yr ydych yn caru eich hanwyliaid!
I sicrhau bod eich ymweliadau siopa Nadolig hyd yn oed yn fwy hwylus, mae parcio am ddim ar gael ar ddydd Sul a chynhelir gwasanaeth Clicio a Chasglu gan y rhan fwyaf o siopau’r Cwadrant – sy’n ddelfrydol ar gyfer osgoi’r torfeydd.
I ychwanegu at yr hwyl, bydd y Cwadrant yn cynnal cystadleuaeth ‘Deuddeg Diwrnod y Nadolig’ ar ei dudalen Facebook o 1 – 12 Rhagfyr. I gystadlu, dyfalwch y gair coll i gael cyfle i ennill amrywiaeth o wobrau gwych yn ddyddiol.
Ar gyfer yr holl wybodaeth am weithgareddau’r Nadolig a gynhelir yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant yn ogystal ag oriau agor y Nadolig, ewch i www.quadrantshopping,co.uk.