Date/Time:
Date(s) - 12/10/2019
7:30 pm - 10:00 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Ar ôl gwerthu pob tocyn i’w sioe yn 2018, mae Les Musicals yn dychwelyd i Abertawe gyda’i sioe newydd sbon!
Les Musicals Live Concert Tour yw’r dathliad gorau eto o theatr gerdd.
Mae Jonathan Ansell (prif ganwr G4) a Jai McDowall (enillydd Britain’s Got Talent) wedi dod ynghyd i greu noson o leisiau deinamig a fydd yn arddangos hyd yn oed mwy o ganeuon poblogaidd o’r sioeau cerdd mwyaf llwyddiannus erioed.
Dewch i ymgolli ym myd theatr gerdd gyda chlasuron o Les Miserables, Phantom of the Opera, Blood Brothers, Wicked, Jesus Christ Superstar, Carousel, West Side Story, The Lion King, Miss Saigon, Chess, Rocky Horror Show, We Will Rock You a llawer mwy.
Ar ôl gwerthu pob tocyn yn sioeau 2018, yn sicr bydd hwn yn gyngerdd na ddylech ei golli yn ei ail flwyddyn gyffrous.
Bydd tocynnau VIP yn cynnwys cyfle i gwrdd â Jonathan a Jai am 6.00pm, yn ogystal â gwydraid o win (neu sudd) am ddim, a’r cyfle i dynnu lluniau a gofyn am lofnodion.
Tocynnau: £17.50, £22.50, £26.50
£65 Cwrdd a chyfarch VIP
Tocynnau ar gael drwy ffonio 01792 635253
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English