Date/Time:
Date(s) - 11/05/2019
8:00 pm - 10:30 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Taith 35 Mlynedd ‘NO PARLEZ’
Mae hoff ganwr pawb o’r 80au, Paul Young, yn ôl ar daith ac yn perfformio ei albwm hynod boblogaidd ‘No Parlez’ i ddathlu 35 mlynedd ers ei ryddhau.
‘No Parlez’ oedd albwm cynaf Paul. Cyrhaeddodd rif 1 yn siartiau’r DU ym 1983 lle arhosodd am 5 wythnos a chyn pen dim enillodd statws platinwm triphlyg. Roedd yr albwm yn cynnwys record sengl gyntaf Paul a gyrhaeddodd rif 1 yn y DU, sef fersiwn o gân Marvin Gaye, ‘Wherever I Lay My Hat’, a ffefrynnau megis ‘Come Back & Stay’ a ‘Love of The Common People’. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys fersiwn o ‘Love Will Tear Us Apart’ gan Joy Division.
Yn wreiddiol roedd Paul Young yn aelod o’r Q-Tips, band o’r 80au cynnar, yna yn yr 80au aeth yn berfformiwr unigol ac aeth ei yrfa o nerth i nerth gyda ‘No Parlez’ a chaneuon eraill a gyrhaeddodd 10 uchaf y siartiau megis ‘Everytime You Go Away’ ac ‘Everything Must Change’. Mae hefyd yn enillydd Canwr Gwrywaidd Gorau yn y Brit Awards, canodd y llinellau agoriadol ar sengl Band Aid, ‘Feed the World’, a pherfformiodd yng nghyngerdd Live Aid ym 1984. Mae Paul yn ben-gogydd brwd, yn feicwr ac wrth ei fodd â phopeth Mecsicanaidd!
Yn ddyn ei deulu, mae bob amser yn hapus i fod ar daith yn perfformio’i ganeuon adnabyddus fel artist unigol neu gyda’i fand Tex Mex/Americana ‘Los Pacaminos’
www.paul-young.com
Tocynnau
£32.00 & £44.50
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English