Date/Time:
Date(s) - 02/07/2019
7:00 pm
Location: Sgwâr y Castell
Mae tymor Sgriniau Mawr BP yn dychwelyd i Sgwâr y Castell ar gyfer 2019!
Mae opera enwocaf Bizet yn adrodd hanes y cymeriad enigmatig a nwyfus, Carmen, a’r angerdd peryglus mae’n ei ennyn yn Don José. Dewch i fwynhau diwylliant am ddim ar garreg eich drws: gwyliwch fersiwn y Tŷ Opera Brenhinol o’r opera enwog hon, sy’n cynnwys dawnswyr fflamenco, ymladdwyr teirw a gorila! A’r cyfan yn rhan o ddarllediad byw am ddim o’r Tŷ Opera Brenhinol ar eich Sgrîn Fawr BP agosaf.
Gall pawb yn Abertawe fwynhau diwylliant am ddim ar garreg eu drws pan fydd Sgriniau Mawr BP y Tŷ Opera Brenhinol yn cael eu gosod mewn 24 lleoliad allweddol ar draws y DU yr haf hwn, gan gynnwys yn Sgwâr y Castell. Dewch â phicnic a gwyliwch y perfformiadau clasurol canlynol yn fyw gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Rhannwch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @royaloperahouse a’r stwnshnodau #ROHcarmen.
Bydd Sgwâr y Castell ar agor i bawb. Dewch â chlustogau a blancedi er mwyn bod yn gyfforddus. Bydd bwyd a diod ar gael o fangreoedd lleol; neu mae croeso i chi ddod â’ch picnic eich hun. Dylid cael gwared ar unrhyw wastraff yn y biniau a ddarperir neu fynd ag ef adref. Gwisgwch yn briodol ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Er budd diogelwch y cyhoedd, bydd yr amodau canlynol yn berthnasol yn Sgwâr y Castell:
- Bydd mynediad i’r digwyddiad ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar y lle sydd ar gael
- Bydd gan stiwardiaid y digwyddiad ganiatâd i chwilio drwy eiddo unigolion wrth iddynt fynd i mewn i’r digwyddiad. Ni fydd staff yn gyfrifol am unrhyw eitemau gwaharddedig
- Mae eitemau gwaharddedig yn cynnwys gwydr, parasolau mawr, gasebos, cysgodlenni a barbeciwiau tafladwy, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhain.
- Mae’r trefnwyr yn cadw’w hawl i wrthod mynediad i’r digwyddiad am ba reswm bynnag
Rhan o Dymor Sgriniau Mawr BP y Tŷ Opera Brenhinol ar gyfer 2019
Categories
- Digwyddiadau Arbennig
- Digwyddiadau i Deuluoedd
- Diwylliant
- Free
- Gorffennaf
- Gweithgareddau
- Music
- Theatr
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English