Mae lliwiau’r enfys yn dechrau disgleirio yn Abertawe yn y cyfnod cyn Wythnos Pride Abertawe a phrif ddathliad Pride Abertawe ddydd Sadwrn 4 Mai!
Ychydig wythnosau’n unig sydd i fynd tan i Pride Abertawe a’i ogoniant seithliw disglair gyrraedd Abertawe…ac mae’r cynlluniau’n mynd rhagddynt i greu’r dathliad mwyaf holl-gynhwysol erioed yn hanes Pride Abertawe – digwyddiad AM DDIM a arweinir gan y gymuned na ddylid ei golli!
Nod dathliad Pride Abertawe eleni yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r holl gymunedau LGBT+ a’u cefnogi, gyda sefydliadau, grwpiau, unigolion, cwmnïau, busnesau, teuluoedd ac unigolion yn cael eu gwahodd i gefnogi’r dathliad amryliw hwn a arweinir gan y gymuned, a chymryd rhan ynddo.
Mae amser o hyd i UNRHYW UN a PHAWB gymryd rhan yn nathliadau eleni drwy fynd i un o ddigwyddiadau wythnos PRIDE Abertawe. Mae gwahoddiad agored hefyd i ymuno yn yr hwyl seithliw ar brif ddiwrnod Pride sydd AM DDIM ddydd Sadwrn 4 Mai i gymryd rhan yng Ngorymdaith Pride Abertawe 2019, neu ei gwylio, ac ymuno â’r dathliadau ar thema Pride ar lawnt Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n garedig wedi rhoi’r lle i ni ar gyfer y dathliadau.
Unwch, cefnogwch a pharchwch Gymunedau LGBT+ ac yn bennaf oll, dathlwch Gydraddoldeb, Amrywiaeth ac Unigolrwydd drwy gariad ym mis Mai.
#PrideAbertawe
Felly beth sydd ar ddod yn ystod Wythnos Pride Abertawe a PHWY sy’n rhan ohoni?
Bydd yr arddangosfa gelf Pebbleshore a’r artist Chameleon sy’n gefnogol o LGBT+ yn cynnal arddangosfa gelf ar 26 a 27 Ebrill yn Theatr y Grand. Mae hon yn arddangosfa hygyrch i ddathlu Abertawe a Pride.
Un o nodau Pride eleni yw addysgu cynulleidfaoedd iau ac arddegwyr a’u cynnwys yn nigwyddiadau Pride, addysgu unigolion ifanc a chaniatáu iddynt ddathlu eu hunain a rhoi’r hyder iddynt dderbyn hunaniaethau ei gilydd.
Bydd myfyrwyr Theatr Gerdd elít The Mark Jermin Stage School yn perfformio noson arddangos wedi’i hysbrydoli gan Theatr Gerdd ieuenctid yn seiliedig ar Pride i ddechrau’r wythnos nos Fawrth Tuesday 30 Ebrill yn HYST, bar cabaret Abertawe, o 7pm. “Yn y cabaret heb ffiniau hwn, bydd y cantorion yn gwneud pethau’n wahanol ac yn perfformio’u hoff ganeuon sioe ni waeth beth yw eu rhywedd wrth iddynt ddathlu pobl sy’n rhywedd hylifol yn y gymuned theatr gerdd.
Nos Fercher 1 Mai, cynhelir sioe adloniant amrywiol drawiadol gan bobl ifanc sef UP NEXT WITH PRIDE yn Theatr y Dywysoges Frenhinol Port Talbot. Mae Up Next with Pride yn cynnwys cast o gorau, ysgolion dawns, gymnastwyr a chantorion a fydd yn perfformio ar y llwyfan gyda ffrwydrad o ddewrder, hyder, ac wrth gwrs, dalent. Cefnogir y cynhyrchiad hwn gan Peter Lynn and Partners.
Nos Iau 2 Mai, cynhelir y digwyddiad ” Pride Abertawe’n Anelu at y Llawr Dawnsio” am y tro cyntaf yn Abertawe lle bydd parau o’r un rhyw sy’n ddechreuwyr yn wynebu ei gilydd ar y llawr dawnsio yn Neuadd Brangwyn am noson wedi’i hysbrydoli gan Strictly Come Dancing sy’n addo bod yn fendigedig!!!
Bydd y digwyddiad dawnsio a gynhelir fel rhan o Wythnos Pride Abertawe yn cynnwys parau hoyw a lesbiaidd go iawn o ardal de Cymru a phob un ohonynt yn cystadlu i ennill tlws pêl ddisglair Pride Abertawe’n Anelu at y Llawr Dawnsio a roddir yn garedig gan Dawsons Property. Cyflwynir pob pâr i athrawon dawns a hyfforddwyr lleol a byddant yn cael 10 wythnos galed o hyfforddiant fel y bydd y bysedd yn ystwytho a’r traed yn pwyntio. Ymhlith y rheiny a fydd yn ceisio sgorio’r deg perffaith fydd rhai o bobl fwyaf adnabyddus Abertawe a fydd yn cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd gwaith. Bydd cystadleuwyr fel KEV JOHNS yn partneru â’i gyfaill o sioe frecwast The Wave, LEIGH JONES, ar y llawr dawnsio – mae’r ddau wedi hen ddechrau ymarfer gyda’u coreograffwr, yr arbenigwraig ddawns Jalisa Andrews. Mae’r parau eraill yn cynnwys GEMMA PEGLER o’r brand ffitrwydd Funky Pump a’i chariad DEBBIE JONES sy’n cael eu haddysgu gan Natalie Salter o The Natalie Salter Dance Company a sêr drag Abertawe sef RUBY SLIPPERS a LADY EMERALD sy’n 2 frenhines ddrag a fydd yn dawnsio gyda’i gilydd yn y digwyddiad gwych hwn gyda help Rachel Smith o The Rachel Smith School of Dance!
Mae cystadleuwyr eraill yn cynnwys:
LEE HEAVEN a LEON ATOLAGBE a addysgir gan Olivia Davies
CARLY DEL A HUGHES a CERYS BROCK a addysgir gan Lisa Clark
KEITH MILLWARD a PETER KINGSBURY a addysgir gan Kelly Daley
MR A MR ALAN a CHARLES BEVAN BARRETT a addysgir gan Jade Facey
CLAIRE SCOTT a KATHRYN LANE, gydag Emily Pridmore yn coreograffu
MICHAEL EVANS a LUKE JONES gydag Ebony Roberts yn coreograffu.
Mae’r digwyddiad hwn yn addo bod yn noson mas wych i bawb ei mwynhau. Bydd pob gwestai’n derbyn bag nwyddau, trwy garedigrwydd DWJ Wealth!
Bydd seren ‘Ru Paul’s Drag Race’, FARRAH MOAN, a welwyd ar ein sgriniau’n ddiweddar yn y gyfres ddiweddaraf sef Tymor 4 o ‘Ru Paul’s Drag Race All Stars’, yn cynnal parti cyn lansio Pride nos Wener 3 Mai yn Fiction and Vinyl yn Abertawe gyda’i sioe hynod ddoniol. Bydd Miss Moan yn creu rhywfaint o hanes ar gyfer y ddinas gan mai hi yw’r gyntaf o freninesau Ru Paul i ymweld ag ardal goblog Stryd y Gwynt!
Mae’r holl gynlluniau a digwyddiadau unigol hyn yn arwain at brif ddiwrnod Pride yng nghanol Abertawe. Ar gyfer y prif ddiwrnod, mae Pwyllgor Pride Abertawe’n gobeithio y bydd dathliad yr wythnos hon yn uchafbwynt gwirioneddol yng nghalendr Abertawe. Mae gan Pride Abertawe gefnogaeth gan noddwyr gwych ar ffurf Unsain Abertawe (cangen y cyngor) sydd wedi addo i gefnogi’r digwyddiad am y 3 blynedd nesaf. Daw cefnogaeth wych arall o BID (Rhanbarth Gwella Busnes) Abertawe Great Western Railway, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Bydd Pride Abertawe hefyd yn rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, ac mae Dinas a Sir Abertawe yn gwneud gwaith arbennig wrth gefnogi’r digwyddiad a helpu i sicrhau y bydd prif ddiwrnod Pride a’r digwyddiad ei hun yn mynd yn dda!
Beth sydd ar y gweill ar gyfer digwyddiad PRIDE ddydd Sadwrn 4 Mai?
Bydd gorymdaith liwgar debyg i garnifal yn teithio ar hyd strydoedd Abertawe! Bydd grwpiau a chefnogwyr LGBT+ yn dangos y ffordd maen nhw’n ystyried Pride. Gall sefydliadau a busnesau lleol sydd hefyd yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth ddefnyddio ceir arddull carnifal a rhoi gwedd newydd ar geir. Bydd hers seithliw’r Co-Op yn gyrru’n falch drwy ganol y ddinas yn ystod gorymdaith Pride eleni, a bydd llawer o wynebau cyfeillgar a phoblogaidd yn ymuno â hi, gan gynnwys dwy o sêr Eastenders Charlie Brooks a Claire Norris, a bydd Shaheen Jafagholi ac Amanda Henderson o raglen Casualty’r BBC ymhlith y gwesteion enwog! Bwriedir i fandiau gorymdeithio a bandiau arddull parti ymuno yn yr hwyl a fydd yn sioe gyffrous sy’n addas i’r teulu cyfan ei gwylio.
Bydd sesiwn gynhesu Zumba ddifyr cyn gorymdaith Pride dan arweiniad Sion Ridegman o Zumba Fitness â’r nod o gyflwyno gorymdaith wych i ganol y ddinas a fydd yn wledd i’r synhwyrau ac yn ddigwyddiad hynod gyffrous a difyr i’w wylio neu gymryd rhan ynddo – gorymdaith i bawb!
Bydd llwybr yr orymdaith yn mynd drwy ganol y ddinas a bydd rhai ffyrdd ar gau ar gyfer parhad yr orymdaith. Croesewir gwirfoddolwyr a stiwardiaid i ymuno hefyd a byddent o gymorth mawr. Mae croeso i bawb ac i gofrestru’ch lle yng Ngorymdaith Pride Abertawe, mewngofnodwch i: www.swanseapride.co.uk
Bydd dathliadau Pride yn parhau diolch i gefnogaeth gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd stondinau ar safle’r amgueddfa ynghyd â gweithgareddau i westeion o bob oed eu mwynhau. Bydd yr anhygoel Mr Flag yn rhoi addurniadau – mae e’ wedi bod yn hynod gefnogol i Pride Abertawe dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd gweithgareddau wedi’u trefnu drwy gydol y dydd ledled yr ardal (y tu mewn i’r adeilad ar y glannau ac ar y lawnt). Bydd y rhain yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan gantorion fel ShellyAnn a welwyd ddiwethaf ar ein sgriniau’n ennill y gystadleuaeth o flaen Geri Halliwell a gwesteion ar raglen All Together Now y BBC. Bydd y canwr Christopher Hughes yn ymuno â hi, ynghyd â’r arddegwyr poblogaidd Caitlin Mae Hogg a Nataya Carroll a gyrhaeddodd rownd derfynol y rhaglen ‘Got What It Takes’ ar CBBC ac enillydd y rhaglen, Lauren Jones. Bydd grwpiau wedi’u hysbrydoli gan y West End, perfformiadau gan The Valli Boys a cherddoriaeth o’r sioe gerdd sy’n ystyriol o LGBT+ sef ‘Everyone’s Talking About Jamie’, sioe am Jamie Campbell a ddylanwadodd ar LBGT+ mewn bywyd go iawn. Ein cyflwynydd fydd seren ddrag syfrdanol Abertawe, Ruby Slippers, a fydd ymhlith detholiad o freninesau gan gynnwys Dr Bev, Tina Sparkles, Diana D, Mini Cooper, Jolene Dover, Wilma B a Lucy Lou.
Bydd siaradwyr gwadd yn cynnwys gwesteion enwog cyflwynwyr The Wave a Sain Abertawe. Bydd perfformwyr eraill yn cynnwys Chantelle Bellew, y ddawnswraig tap a fu ar Britain’s Got Talent, cast Priscilla Queen of the Desert Cymdeithas Operatig Amatur Melyncryddan, bandiau Coleg Gŵyr, actau teyrnged gan y difyrrwr o Abertawe Jimmy Webb a mwy o adloniant untro LGBT+ yn ogystal â Lady Wolfe a pherfformwyr eraill trwy garedigrwydd Mary’s Caerdydd a Mary’s Abertawe. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys The Wow Dolls a choroni Brenin a Brenhines Pride, yng nghanol Gŵyl Bwyd a Diod Stryd Abertawe i greu awyrgylch gwych i barhau ag ethos Pride.
Bydd timau a staff bythol gefnogol Sain Abertawe a The Wave hefyd yn y dathliad a byddant yn cynnig hwyl, perfformiadau, cystadlaethau ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa gymryd rhan wrth iddynt ddarlledu’n fyw o safle Pride.
Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnal gweithgareddau Pride ac mae wedi bod yn garedig wrth ganiatáu i’r pwyllgor gynnal cyfarfodydd agoriadol yn y lle. Mae Theatr y Grand hefyd yn dangos cefnogaeth wych. Diolch i gronfa Ian McKellen am ganiatáu lle perfformio ar gyfer Mess Up the Mess er mwyn iddynt arddangos peth o’u gwaith, gan gynnwys darnau o’r ddrama drawsrwyiol, Humanequin, a bydd arddangosfa Icons and Allies Pride Cymru yn cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 4 Mai.
I’r rhai sydd am ymhyfrydu yng ngogoniant Pride gyda choctel neu jin Cygnet sy’n gysylltiedig â’r ddinas yn eu llaw, gallant wneud hynny o’r seddi gorau yn y tŷ yn Old Havana lle cynhelir parti Pride VIP ynghyd â gemau GIN-Go Bingo hynod ddoniol! Bydd Bar No.6 hefyd yn cynnal brecinio a dathliadau ar thema Pride.
Byddy dathliadau’n parhau ledled Abertawe gyda nosweithiau anhygoel ar thema Pride yn cael eu cynnal mewn lleoliadau sy’n ystyriol o LGBT+ fel The Kings sy’n cynnal Glitter Pride Party ac Elysium y mae’r ddau le ar y Stryd Fawr. Am y tro cyntaf yn Abertawe bydd lleoliad LGBT+ poblogaidd MARY’S o Gaerdydd yn ymddangos fel rhan o Walkabout Abertawe – gyda’r holl ddoniolwch, adloniant a gwychder y mae bar Mary’s yn eu rhannu â’i westeion. Dathliad arall ar gyfer Pride fydd Noson Zumba Pride yn Popworld a fydd yn dechrau am 9.30pm.
Bydd Pride yn bresennol yng nghanol y ddinas gyda busnesau a siopau cefnogol, y Cwadrant, caffis a sefydliadau oll yn ymuno yn nathliadau PRIDE drwy addurno’u ffenestri a’u harddangosfeydd ac yn cynnal eu diwrnodau Pride eu hunain. Efallai cynigir gostyngiadau i holl westeion Pride.
Bydd y dathliadau’n parhau tan benwythnos gŵyl y banc….. Cynhelir gwasanaeth rhyng-grefyddol ar thema Balchder, Cariad a Ffydd gan yr Eglwys Undodaidd ddydd Sul 5 Mai am 2pm ac mae’n agored i bob gwestai a ffydd.
Rwyf am gymryd rhan!! Sut gallaf gyfranogi???
MAE EICH ANGEN CHI AR PRIDE ABERTAWE!!
Rydym yn rhagweld y bydd y dathliad blynyddol cynyddol hwn yn fanteisiol i bob busnes a sefydliad yn ne Cymru wrth iddo ddod â mwyfwy o bobl i ganol y ddinas i ymwneud â Pride a’i ddathliadau a hefyd i uno busnesau a sefydliadau i fod yn hynod dryloyw ac yn agored wrth gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn eich gwahodd chi a’ch busnes i ymuno â mudiad enfys eleni, i ddangos eich cefnogaeth ac i gynnwys ein cymuned wrth gefnogi unrhyw staff, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr y gymuned LGBT+.
Mae sawl ffordd i chi gymryd rhan:
- Mae croeso wrth gwrs i chi ddod i’r digwyddiad.
- Gallwch fwynhau’r adloniant ar Lawnt yr Amgueddfa Genedlaethol (y prif safle ar gyfer y dathliad)
- Gallwch fynd i ddigwyddiad ar thema Pride sy’n cyd-fynd â’r dathliad (cynhelir digwyddiadau amrywiol ar draws canol y ddinas yn ystod wythnos Pride)
- Gadewch i’ch beiddgarwch a’ch creadigrwydd fynd yn wyllt ar eich cyfer chi, eich ffrindiau, eich cydweithwyr, aelodau’r teulu neu staff drwy gymryd rhan yng ngorymdaith Pride wrth iddi ddilyn llwybr drwy ganol y ddinas. Neu, os gallwch
- Gwirfoddolwch ar y diwrnod – nid oes llawer o aelodau ar y pwyllgor felly gallwch helpu i osod pethau yn eu lle, stiwardio a chynnig lles a help ar brif ddiwrnod Pride. Os gallwch roi o’ch amser, hoffem glywed gennych. Cynhelir bore hyfforddiant anffurfiol ddydd Sadwrn 27 Ebrill ar gyfer yr HOLL ddarpar wirfoddolwyr. Ewch i Theatr y Grand, Abertawe ac ymunwch â Phwyllgor Pride Abertawe i brofi holl hwyl yr enfys fel gwirfoddolwr. I gael mwy o wybodaeth am fod yn wirfoddolwr, e-bostiwch: info@swanseapride.co.uk
Os oes gennych fusnes yn Abertawe…Mae croeso i chi ddangos eich cefnogaeth mewn ffyrdd eraill hefyd gan gynnwys:
- Addurno’ch busnes – gallai hyn fod yn fewnol, gallai fod ar ffurf blaenau siopau ar thema’r enfys, neu’n ddigidol. Gallwch ychwanegu lliwiau’r enfys at eich llogo/tudalen cyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed roi baneri seithliw y tu allan i flaen eich busnes.
- Yn ystod prif ddiwrnod Pride neu hyd yn oed ar gyfer wythnos gyfan Pride Abertawe, gallwch gyflwyno cynnig arbennig ar thema Pride neu thema’r enfys. Er enghraifft, os ydych yn gwerthu bwyd neu ddiod efallai byddech am gynnig diod seithliw, salad seithliw neu hyd yn oed weini’ch bwyd a diod mewn cwpanau seithliw. Gallwch ddenu cwsmeriaid sy’n amlwg yn cefnogi LGBT+ gyda chynnig arbennig – “Gostyngiad o 5% i unrhyw un sy’n gwisgo’r enfys ar 4 Mai” – byddai unrhyw beth yn wych wrth gynyddu ymwybyddiaeth o Pride Abertawe a lledaenu’r gefnogaeth. Chi fydd yn penderfynu ar unrhyw ostyngiadau/gynigion/ymgyrchoedd a hyrwyddiadau.
- Rhoi cyfraniad busnes i Bwyllgor Pride Abertawe sy’n gwbl gyfansoddiadol a chanddo cyfrif banc trysorydd ac sydd am fod yn rhwydwaith cefnogi ar gyfer materion cydraddoldeb/LGBT+ yn Abertawe a’r ardal amgylchynol yn y dyfodol. Bydd 100% o’ch rhodd yn mynd tuag at y digwyddiad a bydd yn helpu’n fawr i sicrhau ein bod yn darparu dathliad diogel.
Ar gyfer unrhyw un sydd am fod yn rhan o ddathliad Pride Abertawe, rydym yn annog yr holl gyfranogwyr i gofrestru cyn gynted â phosib. I wneud hyn ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.swanseapride.co.uk neu mae croeso i chi e-bostio’r pwyllgor. Gellir cael gafael ar y Cadeirydd yn: info@swanseapride.co.uk a’r Is-gadeirydd drwy e-bostio: nia@jerminproductions.co.uk
Rydym yn gobeithio y byddwch chi i gyd yn dwlu ar gelfwaith Pride Abertawe hefyd. Dyluniwyd y poster gan Samuel Knight o SnoozyLion a gwnaed y gwaith enfawr i lunio Arweiniad Pride gan Sandra Evans o Sandstar Creative.
Rydym i gyd yn hynod ddiolchgar am yr holl garedigrwydd a’r diddordeb a ddangoswyd eisoes yn nigwyddiad Pride eleni gan sefydliadau sy’n cynnwys GMB Abertawe, Fiction and Vinyl Abertawe, cylchgrawn Digwyddiadau Abertawe, The Gay UK, Wales Online, Evening Post Abertawe a gwesty The Dragon a fydd yn rhoi llety i westeion ac enwogion Pride!
Mae Pride Abertawe’n sefydliad nid er elw sy’n cynnwys gwirfoddolwyr brwd a phenderfynol sy’n rhagweld Pride Abertawe i bawb…er mwyn i’r holl grwpiau cymunedol ddod ynghyd mewn cariad ac undod, dathlu unigolrwydd, dangos parch a charedigrwydd at eraill a dathlu natur agored ein dinas wych, Abertawe.
Gobeithiwn eich gweld chi yno!
#PrideAbertawe
I GAEL MWY O WYBODAETH AM PRIDE ABERTAWE, EWCH I:
I GYSYLLTU Â PHWYLLGOR PRIDE, CAEL RHAGOR O WYBODAETH, CYMRYD RHAN NEU HYD YN OED HELPU/GEFNOGI/ROI NEU WIRFODDOLI, CYSYLLTWCH Â’R:
Is-gadeirydd yn:nia@jerminproductions.co.uk
neu Gadeirydd y pwyllgor yn uniongyrchol yn: swanseapride@gmail.com