Cynhelir Gŵyl Deuluol Selsig a Seidr gyntaf Abertawe ddydd Sul (26 Gorffennaf) – ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn!
Mae Parc Singleton yn barod i gael ei weddnewid i fod yn ŵyl haf fawr i’r teulu lle bydd cerddoriaeth fyw, adloniant i’r teulu, amrywiaeth helaeth o seidrau a chyrfau, a’r prif atyniad, sef detholiad blasus o selsig lleol o’r radd flaenaf a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd (mae selsig heb glwten a rhai llysieuol ar gael hefyd).
Os nad yw hynny’n ddigon i fodloni eich archwaeth, bydd nwdls, mochyn rhost, danteithion melys a hufen iâ ar gael hefyd i’ch oeri drwy gydol y diwrnod.
Bydd cerddoriaeth fyw drwy’r diwrnod gan fandiau teyrnged penigamp fel Really Hot Chilli Peppers, Born Jovi, ac One Vision (Queen), ynghyd â ffefrynnau lleol fel Plastic Sam a Son of Jack. Yn ogystal, bydd llawer o DJs yn chwarae pob math o gerddoriaeth o Northern Soul, roc, pop i jazz.
Gall rhieni fod yn sicr y bydd digon ar gael i ddiddanu’r plant, gyda gweithgareddau fel paentio wynebau, trampolinau, celf a chrefft, reidiau, a chonsurwyr (cadwch lygad am y minions mawr!).
Gyda rhywbeth at ddant pawb, peidiwch â cholli’r digwyddiad hwn yr haf hwn. A chofiwch ddod â’ch archwaeth am fwyd gyda chi!
Tocynnau: Tocyn oedolyn: £7 | Tocyn plentyn: £5 | Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £22 | Mynediad am ddim i blant dan 3 oed!
Gallwch ganfod manylion llawn am y digwyddiad a dolen i brynu tocynnau yma.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English