Cyfle gwych i weld gwaith celf gwreiddiol o amser pwysig yn hanes Prydain – mae Arddangosfa Posteri’r Rhyfel Mawr Amgueddfa Abertawe yn werth ymweld â hi’r haf hwn.
Gyda 31 o bosteri’n cael eu harddangos, mae’r arddangosfa hon yn taflu goleuni pellach ar y propaganda a’r dulliau ymgyrchu a ddefnyddid yn ystod y gwrthdaro.
Mae’r arddangosfa’n dechrau ar gychwyn y rhyfel ym 1914, gyda’r brif flaenoriaeth sef yr ymgyrchoedd ymrestru. I annog dynion ifanc i ymrestru ac ymladd dros eu gwlad, dyluniwyd y posteri i apelio at eu gwerthoedd gwladgarol a moesol gydag ymdeimlad o antur.
Wrth i’r arddangosfa symud at ddiwedd y gwrthdaro ym 1918, ceir newid amlwg yn naws ac arddull y propaganda sydd ag ymdeimlad newydd o frys. Ceir symud dramatig hefyd yn y negeseuon allweddol gan Lywodraeth Prydain, gyda’r angen i arbed bwyd ac annog cyfraniadau i’r gronfa ryfel yn flaenoriaeth.
Mae’n anodd dewis o arddangosfa ardderchog, ond mae ein huchafbwyntiau’n cynnwys y poster adnabyddus sy’n cynnwys John Bull gyda baner Jac yr Undeb ar draws ei fol; y poster cynnar gyda delwedd drawiadol o Fritannia’n coffáu suddo Lusitania; a’r posteri Cymraeg lleol sy’n cynnwys negeseuon Dydd Gŵyl Ddewi.
Mae arddangosfa posteri’r Rhyfel Mawr yn Amgueddfa Abertawe yn fenter ar y cyd rhwng Amgueddfa De-orllewin Cymru rhwng cynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro ac Abertawe gyda chyllid a chefnogaeth gan CyMAL a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae’r posteri’n ychwanegu dimensiwn newydd i brif arddangosfa’r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr amgueddfa ac mae’n werth ymweld â hi – ni fyddwch yn cael eich siomi!
Cynhelir yr arddangosfa tan 27 Medi. Mynediad am ddim.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English