Date/Time:
Date(s) - 15/06/2018
9:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Mae’r band hwn yn cynnwys llais anhygoel Noel McCalla a sacsoffon dwys Derek Nash. Cânt eu cefnogi gan fand gwych sy’n cynnwys Neil Angilley (piano), Tim Cansfield (gitâr), Orefo Orakwue (bas) a Nick France (drymiau) a byddant yn chwarae dathliad o gerddoriaeth Stevie Wonder. O rai o ganeuon enwocaf Stevie i’w rai llai adnabyddus a rhai wedi’u cyfansoddi ar gyfer artistiaid eraill, mae hon yn sicr o fod yn noson odidog, a fydd yn siŵr o wneud chi deimlo’n dda!
Mae Derek wedi bod yn aelod o Jools Holland’s Rhythm and Blues Orchestra ers 2004, wedi arwain Sax Appeal am dros ddeng mlynedd ar hugain, mae’n arwain y band ffync/fusion, Protect the Beat, ac mae’n aelod o Ronnie Scott’s Blues Explosion. Mae’n enwog am ei berfformiadau egnïol, bywiog, angerddol a charismatig ar y pedwar math o sacsoffon, o’r bariton soniarus i’r soprano swynol. Mae hefyd yn berfformiwr arobryn sydd wedi derbyn Gwobr John Dunkworth a Gwobr Jazz Prydain (grŵp bach) ar gyfer Sax Appeal. Derbyniodd, gyda’r diweddar Spike Robinson, wobr CD Jazz Gorau’r Flwyddyn ar gyfer Young Lions, Old Tigers a derbyniodd yr un Wobr Jazz Prydain yn 2012 ar gyfer Joyriding gyda The Derek Nash Acoustic Quartet. Caiff ei enwebu’n rheolaidd ar draws amryw o gategorïau yng Ngwobrau Jazz Prydain (alto/tenor a bariton) a chafodd ei enwebu ar gyfer Cerddor Jazz y Flwyddyn gan y Global Music Foundation.
Mae wedi recordio tri chryno ddisg unigol, Setting New Standards (1998) gyda Clark Tracey, Alec Dankworth a Graham Harvey; Snapshot (2009) gyda Jan Lundgren, Geoff Gascoyne a Steve Brown; a Joyriding (2012) gyda’r pianydd arobryn Dave Newton a Geoff Gascoyne a Sebastiaan de Krom.
Mae Derek yn perfformio rhyw 100 gig y flwyddyn gyda Jools Holland’s Rhythm and Blues Orchestra, gan gynnwys perfformiad o flaen 65,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ac o flaen dros 100,000 o bobl yng Ngŵyl Glastonbury lle’r oedd yn brif unawdydd. Mae hefyd wedi ymddangos ar 7 CD diwethaf y band. Mae wedi perfformio’n fyw ac ar y teledu gyda mawrion cerddoriaeth megis, Eric Clapton, Amy Winehouse, Emeli Sande, Jessie J, Syr Paul McCartney, Solomon Burke, Annie Lennox, Eddie Floyd, Sam Moore, Madeleine Peyroux, Roger Daltrey, David Sanborn, Eddi Reader a Tom Jones.
Tocynnau: £15 – £20
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories