Date/Time:
Date(s) - 28/04/2018 - 29/04/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Volcano Theatre
Gŵyl dros y penwythnos i’r teulu cyfan – yn llawn hwyl a phethau creadigol i’w gwneud, eu gweld a’u darganfod.
Yn cynnwys…
RÊF TEULU BIG FISH LITTLE FISH
Credwn fod gan bawb yr hawl i gael amser da – felly, pysgodyn mawr bachwch bysgodyn bach ac fe’ch gwelwn ar y llawr dawnsio!
KID CARPET’S SUPER MEGA ROCKIN’ ROCK SHOW
Chwaraewch ping pong, helpwch i ddal brechdan sydd ar goll yn y gofod a chymryd rhan mewn cystadleuaeth ddawnsio fawreddog. Bydd Kid Carpet yn eich dysgu sut i rocio mewn sioe roc, hedfan fel Eryr Euraidd a mynd i’r toiled yn y goedwig.
A STRANGE NEW SPACE
Ymunwch ag Amira ar ei thaith ar draws y cyfandiroedd ac i’r gofod, yn y sioe hon heb eiriau gyda cherddoriaeth wreiddiol a phypedwaith gwych. Sioe gan Tessa Bide.
AMSER STORI’R FRENHINES DRAG
Fel ag y mae! Breninesau Drag yn darllen straeon. Hwyl, cymryd rhan a glamoraidd.
A HEFYD
Llawer iawn o weithgareddau AM DDIM gan gynnwys gweithdai symud a dawnsio i roi blas, gyda Volcano Theatre; Digwyddiadau Storypolis; Gweithdai TechHub, Oriel Science, Sew Swansea a mwy!
Categories