Ddim yn mynd tramor dros yr haf? Does dim ots – gallwch brofi hinsawdd drofannol ar garreg eich drws yn Plantasia.
Nid oes llawer o goedwigoedd glaw yn y DU, ond yma yn Abertawe, rydym yn ddigon ffodus i gael un yng nghanol y ddinas! Yn hafan drofannol awyr agored unigryw, mae Plantasia’n ymffrostio mewn amrywiaeth gwefreiddiol o blanhigion ac anifeiliaid. Os ydych yn dechrau cael anhawster yn meddwl am syniadau i ddiddanu’r plant dros wyliau’r haf, beth am fynd â hwy i brofi’r amgylchedd anhygoel hwn, lle gallant ddysgu am rywogaethau hynod ddiddorol sy’n byw yn y goedwig law.
Mae hefyd yn amser gwych i ymweld â’r goeden fara, sydd wedi dechrau dwyn ffrwyth unwaith eto am y tro cyntaf mewn 25 o flynyddoedd.
Rhaid dod i hwn
Parth Anifeiliaid Rhyngweithiol
Dyddiad: 18 – 20 Awst
Dewch â’ch plant i un o’n sioeau rhyngweithiol dyddiol lle gallant ddod yn agos at rai o anifeiliaid anhygoel Plantasia.
Amserau’r sioeau: 10.30am | 12.00pm | 2.00pm | 3.15pm
Tocynnau: Plant £4.50 | Oedolion £5.50
*Oherwydd eu bod mor boblogaidd, rydym yn awgrymu cadw lle ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Ar y gorwel:
Nid ydym am i’r haf orffen eto, ond dyma ychydig o ddigwyddiadau gwych a gynhelir yn Plantasia ar ddiwedd y flwyddyn:
Antics Anifeiliaid Pryfetach:
Dyddiad: 26, 27 & 28 October
Hoffi pryfetach? Digon dewr i ddal corryn? Gallwch wneud hynny yn Antics Anifeiliaid!
Amserau’r sioeau: 10.30am | 12.00pm | 2.00pm | 3.15pm
Tocynnau: Plant £4.50 | Oedolion £5.50
Noson Bwci Bo Calan Gaeaf
Dyddiad: 30 & 31 October
Mentrwch ar hyd llwybrau gweoedd pryfed cop iasol Plantasia wrth i chi weld pryfetach go iawn a bydd hwyl a gemau Nos Galan Gaeaf.
Amserau’r sioeau: 5.30pm – 7.30pm
Tocynnau: £5.00 y pen.
*Rhaid cadw lle am y ddau ddigwyddiad.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English