Cynhelir rhaglen gynhwysfawr o sesiynau gweithgareddau difyr ac anffurfiol gan Parklives Abertawe sy’n addas i bobl o bob oedran a gallu mewn sawl lleoliad yn ein dinas – gan gynnwys Parc Brynmill, Parc Williams a hyd yn oed ar draeth Bae Abertawe!
Ni waeth os rydych yn frwd dros ffitrwydd ac yn chwilio am gyfle i wneud hyfforddiant cylchedu yn ystod eich egwyl ginio, neu’n chwilio am ffordd o fanteisio i’r eithaf ar yr awyr agored drwy fwynhau ioga ar y traeth, mae gan Parklives weithgareddau sy’n addas i bawb. Trwy gydol y gwyliau ysgol, maent yn cynnal gweithgareddau dyddiol i oedolion a phlant ifanc fel ei gilydd – gan gynnwys mynyddfyrddio, teithiau cerdded ym mhenrhyn Gŵyr, aml-gamp a tai chi.
Ymwadiad: ewch i wefan Parklives (www.parklives.com) ar gyfer unrhyw newidiadau i weithgareddau, oherwydd efallai bydd rhai’n newid.
Bydd ParkLives yn tynnu sylw at rôl bwysig parciau fel canolfannau gweithgarwch cymdeithasol hygyrch ac am ddim mewn cymunedau lleol, ac yn defnyddio mewnwelediad ac arbenigedd arweinwyr sesiynau lleol a gwirfoddolwyr sydd wedi datblygu eu sgiliau. Arweinir y rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan Coca-Cola GB, gan dîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe. Cyflwynir y rhaglen gan glybiau a sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol ac mae ar waith yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.
I weld rhestr lawn o’r gweithgareddau a gynhelir dros y misoedd i ddod, ac i gadw lle, ewch i wefan Parklives