Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i Abertawe ddydd Sadwrn 26 Hydref ar gyfer Dawns yr Angenfilod a fydd yn cynnwys 10 o atyniadau arswydus llawn hwyl i’r teulu – gyda’r cyfan AM DDIM!
1: Llwyfan Dros Dro Jermin Productions: 11am tan 4pm ar Stryd Portland
Bydd tîm talentog Jermin Productions yn cyflwyno atodlen llawn adloniant arswydus i chi ei fwynhau.
2: Llwyfan Galw Heibio The Wave: 11am tan 4pm yn Sgwâr y Castell
Cofiwch fynd i Sgwâr y Castell am raglen ragorol o adloniant, gan gynnwys perfformiadau gan gantorion lleol, dawnswyr a llawer mwy.
3: Mystery Machine a chymeriadau Scooby Doo: 11am tan 4pm yn Sgwâr y Castell
Ble mae Scooby Doo? Ni fydd rhaid i chi edrych yn bell oherwydd y bydd yn Sgwâr y Castell Abertawe. Beth am gael hunlun gydag ef? Ond cofiwch ddod â scooby-snacks!
4: Chwarae Cuddio gyda’r Angenfilod: 11am – 4pm
Dewch i gasglu cliwiau ar Stryd Portland a Sgwâr y Castell ac ewch i chwilio am yr angenfilod sy’n cuddio yng nghanol y ddinas. Gallech ennill gwobr!
5: Modelu Balwnau Bwystfilaidd 11am tan 4pm ar Stryd Portland
Dewch i wneud eich anghenfil eich hun gyda balwnau! Ond cadwch lygad ar y rheini sy’n brathu!
6: Gemau Stryd Dawns yr Angenfilod: 11am tan 4pm ar Stryd Rhydychen
Mae’n ddiwrnod chwaraeon i’r angenfilod! Pa mor gyflym gall eich rhai bach redeg?
7: Gorsaf Gweddnewid i Anghenfil: 11am tan 4pm yn Sgwâr y Castell
Cyfle i gael eich wynebau wedi’u paentio a dod yn anghenfil go iawn!
8: Man Tynnu Lluniau yr Angenfilod: 11am tan 4pm yn Sgwâr y Castell
Dewch i wneud ystum a chwyrnu at y camera yn y bwth lluniau dros dro. Mae angenfilod yn mwynhau hunlun hefyd!
9: Fflachgriwiau Dawns yr Angenfilod: 12.15pm, 2pm a 3.15pm, Lleoliadau Amrywiol
Dewch i ddawnsio i rythmau bwystfilaidd Dawns yr Angenfilod. Bydd yn siŵr o ddifyrru pawb yn Abertawe!
10: Amser Stori Bwganllyd gyda Brenhines yr Angenfilod: 12pm, 2.30pm a 3pm ar Stryd Rhydychen
Dewch am daith ar y Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf a fydd yn aros amdanoch ar Stryd Rhydychen (y tu allan i Sports Direct), a chewch gyfle i wrando ar Frenhines Angenfilod Abertawe’n darllen straeon arswydus i blant.
Rhagor o hwyl hanner tymor…
Mae llawer mwy o hwyl i’r teulu ar gael yn ystod gwyliau’r hanner tymor (boed a ydych chi’n hoff o bethau arswydus neu beidio) – cymerwch gip ar ein rhestr lawn o ddigwyddiadau.