O glasurol i gomedi, poblogaidd i lenyddiaeth, awyr agored a dan do…bydd yr 8 ffordd ganlynol yn wych i fwynhau Bae Abertawe’r mis Mai hwn.
1) Noson Glasurol gyda’r Gerddorfa Genedlaethol
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
15 Mai, Brangwyn, 7.30pm, Vive La Swansea. Manylion y digwyddiad
Bydd y feiolinydd ifanc rhagorol, Chloë Hanslip, yn dychwelyd i’r gerddorfa ynghyd â’r arweinydd, Xian Zhang, ar gyfer taith gerddorol trwy Ffrainc gydag ychydig o ddylanwad Sbaen. Boléro Ravel, Symphonie Espagnole Edouard Lalo a Symffoni Rhif 3 Saint-Saëns.
2) Ychydig o ddigrifwch
Milton Jones & The Temple of Daft, 15 Mai, 8pm, Theatr y Grand, Abertawe.
Byddwch yn siŵr o hoffi’r sioe hon os oeddech yn hoffi sioe radio ddiweddaraf y seren Mock the Week, sef Thanks a Lot Milton Jones! (BBC Radio 4), ei ymddangosiadau ar Michael McIntyre’s Comedy Roadshow (BBC Un), Live at the Apollo (BBC Un), Dave’s One Night Stand (Dave) neu’r gyfres ar BBC Radio 4. Manylion y digwyddiad
Michael McIntyre, 18 Mai, 8pm, Theatr y Grand, Abertawe.
Taith flaenorol Michael, Showtime, oedd y daith gomedi a werthodd y nifer mwyaf o docynnau yn y byd yn 2012. Perfformiodd i 640 mil o bobl, gan gynnwys 10 noson yn yr O2 Arena yn Llundain gan gyrraedd record y seren bop, Rihanna, o 2011.Manylion y Digwyddiad.
Alan Carr – Yap, Yap, Yap! 23 Mai, 8pm, Theatr y Grand Abertawe.
Bydd Alan Carr yn sgwrsio ledled y DU ac Iwerddon yn ei sioe gomedi newydd, ‘Yap, Yap, Yap!’ lle bydd y comedïwr, yr awdur, a’r arbenigwr rhaglenni sgwrsio, sydd wedi ennill BAFTA a Gwobr Gomedi Brydeinig, yn dychwelyd i’w wreiddiau.Yap it up! Manylion y digwyddiad
3) Ar y Strydoedd…
Mae Gŵyl Stryd a Sglefrio Abertawe’n dychwelyd i Sgwâr y Castell fis Mai! Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw oherwydd bydd digon o rampiau yn yr Ardal Chwaraeon Stryd i bawb allu arddangos eu sgiliau, boed hynny ar esgidiau rholio, sgwter, sglefrfwrdd neu BMX. Bydd dawnsio stryd hefyd a throellwr disgiau i sicrhau bod y gerddoriaeth yn llifo. Manylion y digwyddiad
4) Mwynhau Hanes Byw
Diwrnod Hanes Byw, 23 Mai, 11am-3pm, Castell Ystumllwynarth. Dewch i gwrdd â’r cymeriadau a fyddai wedi byw yn y castell ar un adeg a theithiwch yn ôl i’r Oesoedd Canol gyda’r Ostreme Theatre Players. Manylion y digwyddiad
5) Darganfod Dylan
Taith Dywys Abertawe Dylan, 24 Mai, 10.30 – 12.30pm, Canolfan Dylan Thomas. Bydd Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr sy’n seiliedig ar berfformiad o amgylch canol Abertawe Dylan. Bydd yn dechrau o Ganolfan Dylan Thomas ac yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, Sgwâr y Castell a safle’r Kardomah. Daw’r daith i ben yn y No Sign Wine Bar. Manylion y digwyddiad
6) Dewch i greu crefftau
Hwyl gyda chrefftau i blant 27 Mai, 11.30am-3.30pm, Castell Ystumllwynarth. Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy crefft a rhoi cynnig ar wneud eich coron neu eich bathodynnau eich hun! Addas i blant 3 – 11 oed. Manylion y digwyddiad
7) Gweld Sioe Gerdd
Big Girls Don’t Cry, 28-30 Mai, 2.30pm a 7.30pm, Theatr y Grand Abertawe. Mae’r sioe arbennig hon wedi derbyn clod beirniaid ac mae’n boblogaidd iawn ledled y DU. Mae’n cynnwys yr Eastcoast Boys ac yn dathlu cerddoriaeth Frankie Valli & The Four Seasons gyda Let’s Hang On, Working My Way Back to You, Beggin‘ ac I’ve Got You Under My Skin. Manylion y digwyddiad
8) Ymweld â Diwrnod Gerddi Clun yn eu Blodau
Gerddi Clun yn eu Blodau, 1 i 31 Mai, Gerddi Clun. Amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’w mwynhau trwy gydol mis Mai yng Ngerddi Clun sy’n enwog am eu safonau garddwriaethol. Mae’r digwyddiadau’n cynnwys: Band Mawr Treforys, Band Cyngerdd Abertawe, Gwerthiant Planhigion Prin, Cerddorfa Acordionau, Band Tref Casllwchwr, Band Mawr Constellation, Teithiau Tywys o amgylch Gerddi Clun yn eu Blodau. Manylion y digwyddiad
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English