Mae Oriel Gelf Glynn Vivian (a sefydlwyd ym 1911), sydd yng nghanol Abertawe ac a ailagorodd ar 15 Hydref 2016 ar ôl gwaith adnewyddu helaeth, wedi datblygu casgliad sylweddol sy’n cynnwys ystod eang o’r celfyddydau gweledol, o’r hen feistri i artistiaid cyfoes, ynghyd â chasgliad rhyngwladol o borslen a tsieni Abertawe.
Mae’r rhaglen arddangosfeydd ddeinamig yn rhoi llwyfan i artistiaid yng Nghymru gyflwyno eu gwaith mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol o artistiaid cyfoes pwysig yn ogystal â sioeau hanes celf.
Mae’r tîm dysgu arobryn hwn yn helpu i greu awyrgylch cyfeillgar, cefnogol y gall grwpiau ac unigolion o bob oed ddatblygu dealltwriaeth o fyd celf ynddo. Ar yr un pryd, gallant ddarganfod eu galluoedd eu hunain trwy weithdai ymarferol a rhaglen ddehongli gymunedol gyffrous.
*Sylwer y bydd Oriel Gelf Glynn Vivian ar gau trwy gydol dydd Mawrth, 12 Medi at ddiben gwaith cynnal a chadw. Hefyd bydd y cyfnod trawsnewid ar gyfer ein harddangosfeydd nesaf yn dechrau yn yr Atriwm, Ystafell 2 ac Ystafell 9 rhwng dydd Mawrth 30 Awst a dydd Sadwrn 23 Medi, pan fydd ein harddangosfeydd yn agor. Ymddiheurwn am unrhyw oedi a achosir gan hyn.*
Ewch i’n gwefan www.glynnviviangallery.org i weld rhaglen lawn.
Upcoming Events
Getting there
Address
Alexandra Road
Swansea
SA1 5DZ
Wales
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English