Wrth i Erddi Clun yn ei Blodau 2017 nesáu’n gyflym, roedden ni’n credu y byddai’n syniad da i rannu lluniau o’r gerddi i roi blas i chi ar eu gogoniant ar ôl iddynt flodeuo, yn ogystal â thrwy gydol y flwyddyn!
Edmygir y gerddi gan lawer o bobl, o bell ac agos, ac maent yn lle perffaith i gerdded ar hyd y llwybrau niferus sy’n arwain at guddfannau dirgel, rhyfeddu at Fae Abertawe yn ei gyfanrwydd gyda’r golygfeydd o Bort Talbot, Porthcawl a’r tu hwnt, neu eistedd yn hamddenol i fwynhau persawrau’r asalêu.
Yr wythnos hon, mae’n bleser gennym gyflwyno darn gan Ann Middleton, edmygydd brwd a ffyddlon Gerddi Clun sy’n ffodus i allu gwerthfawrogi’r gerddi nid yn unig pan fyddant yn blodeuo ond drwy gydol y flwyddyn:
“Mae gan erddi Clun ansawdd hudol sy’n bresennol drwy’r flwyddyn gron. O foreau niwlog ac oer, i ddiwrnodau gwyntog i brynhawniau balmaidd. Caf fy hypnoteiddio weithiau gan y lliwiau sy’n ymosod ar eich synhwyrau, o ymddangosiad clychau’r gog a’r rhododendronau i’r amrywiaeth trawiadol o lwyni blodeuog a choed. Mae Bonnie, fy sbaengi, wrth ei bodd yn archwilio’r isdyfiant ac yn rhedeg ar ôl adar sydd eisoes wedi ffoi. Dwi mor ffodus i fyw mor agos i un o ryfeddodau Cymru.”
– Ann Middleton
Cydnabyddiaeth y Lluniau: Ann Middleton
Cofiwch, mae gennym berfformiadau cerddorol bob dydd Sul yng Ngherddi Clun. Mae mynediad am ddim ac mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Edrychwn ymlaen atoch yn ymuno â ni am ddarn o deisen a phaned ddydd Sul nesaf yn y babell de!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English