Bydd Gerddi Clun yn fôr o liw’r mis nesaf gyda chyfres o berfformiadau cerddorol byw, teithiau tywys a gwerthiant planhigion prin.
Disgwylir y bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r gerddi trwy fis Mai unwaith eto yn ystod gŵyl flynyddol Gerddi Clun yn eu Blodau.
Mae mis Mai yn nodi’r adeg pan fo’r gerddi, sydd wedi ennill gwobr y Faner Werdd, ar eu gorau gyda rhododendronau ac asalêu ymysg y blodau a fydd yn serennu.
Mae’r ŵyl yn rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe Cyngor Abertawe ac fe’i cefnogir gan Gyfadeilad Botaneg Cyfeillion Dinas Abertawe.
Mae uchafbwyntiau eraill Gerddi Clun yn cynnwys gasebo sy’n edrych dros Fae Abertawe, pont Japaneaidd, pont Eidalaidd, tŵr a choed clychau’r gog.
Meddai Mark Russ, Rheolwr Gwasanaethau Parciau Cyngor Abertawe, “Mae staff ein gwasanaethau parciau yn gwneud gwaith gwych yng Ngerddi Clun ac mewn sawl parc a man gwyrdd arall ar draws y ddinas, gan eu cynnal a’u cadw i safon uchel. Mae cannoedd ar filoedd o breswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe yn elwa o hyn bob blwyddyn.
“Mae Gerddi Clun ar eu gorau trwy fis Mai, felly mae’n adeg wych i bobl ddod i ymweld â nhw, gweld yr arddangosiadau blodeuol ardderchog a mwynhau’r gerddoriaeth fyw a gweithgareddau eraill mewn lleoliad gwirioneddol hyfryd.
“Gyda thros 2,000 o fathau gwahanol o blanhigion ac amrywiaeth o fywyd gwyllt, mae Gerddi Clun yn un o’r cyfleusterau mwyaf blaenllaw o’i fath yn y DU.”
Mae gweithgareddau Gerddi Clun yn eu Blodau yn cynnwys teithiau tywys o’r gerddi bob dydd Mercher a dydd Sadwrn drwy fis Mai am 2pm yn ogystal â gwerthiant planhigion prin ddydd Sul 15 Mai rhwng 10am a 4pm.
Mae perfformiadau cerddorol byw yn cynnwys cerddoriaeth werin gan Jebbers ddydd Sul 1 Mai rhwng 3pm a 4pm, cerddoriaeth yr enaid a hen ganeuon poblogaidd gan Trim Bling Star ddydd Sul 1 Mai rhwng 4pm a 5pm, Cerddorfa
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English