Dewch i Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 5 Hydref o 4pm i gael gweld! Bydd y dangosiad AM DDIM o Avengers: Endgame yn dechrau am 4.30pm ac yn gorffen am oddeutu 8.00pm.
Mae’r ffilm hon yn ddiweddglo i’r ‘Infinity Saga’ ac mae’n dilyn Avengers: Infinity War, y ffilm boblogaidd iawn gan Marvel, lle mae’r titan gwallgof, Thanos, yn troi hanner y bydysawd yn adfeilion wrth geisio dod o hyd i gydbwysedd cosmig.
Gyda chymorth gan y cynghreiriaid sy’n weddill ac arwyr newydd hefyd, mae’n rhaid i’r Avengers gydweithio unwaith eto yn eu brwydr fwyaf erioed er mwyn dadwneud ei weithredoedd, ni waeth beth yw’r goblygiadau a phwy sy’n eu hwynebu.
Mae’r ffilm hynod lwyddiannus, Avengers: Endgame yn rhan o’r digwyddiad Archarwyr yn Sgwâr y Castell. Dewch draw o 4pm i gwrdd â’ch hoff gymeriadau a mwynhau bwyd stryd blasus wrth i chi wylio’r ffilm.