Bydd pum band o Abertawe’n helpu i ychwanegu at hwyl cerddorol yr ŵyl yn ystod Gorymdaith y Nadolig eleni yng nghanol y ddinas.
Byddant yn ymuno â channoedd o bobl leol eraill yn yr orymdaith ar nos Sul 17 Tachwedd.
Dyma nhw: Band Gorymdeithiol 3 Welsh Wing, Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol; Band Tref Casllwchwr; Samba Bloco Vale; Swansea Silver Rhythmaires; Band Pibau Dinas Abertawe.
Maent wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Abertawe i ddiddanu miloedd o wylwyr yn yr orymdaith.
Byddant yn ymuno ag amrywiaeth eang o gyfranogwyr eraill, gan gynnwys grwpiau dawns a theatr ieuenctid lleol, sefydliadau â fflotiau trawiadol a diddanwyr proffesiynol – heb anghofio Siôn Corn.
Bwriedir cynnal Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau’r Nadolig 2019 Abertawe o 5pm ar 17 Tachwedd.