Efallai’ch bod wedi sylwi ein bod wedi gwella gwefan Joio Bae Abertawe dros yr wythnosau diwethaf. Rydyn ni’n gobeithio bod y dyluniad newydd yn rhoi profiad mwy pleserus i ddefnyddwyr ac yn haws ei defnyddio.
Mae 2016 yn addo calendr llawn digwyddiadau gwych yn Abertawe. O berfformwyr cerddoriaeth mawr megis y Manic Street Preachers a Lionel Ritchie i weithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau megis diwrnodau hwyl i’r teulu a Gwledd y Gaeaf ar y Glannau. Ar ben hynny mae Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n dychwelyd ar Orffennaf 2 a 3.
Mae’r wefan Joio Bae Abertawe’n adnodd sy’n tyfu a ddyluniwyd er mwyn cyflwyno’r holl wybodaeth am y wahanol ffyrdd o fwynhau Abertawe i chi, wedi’i darparu i chi gan dîm diwylliant a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.
Rydym yn bwriadu rhoi syniadau i chi am bethau i’w gwneud yn Abertawe; cyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiadau mawr (a bach), atyniadau diddorol, gweithgareddau i blant, diwrnodau hwyl i’r teulu, ffeiriau crefft a gweithgareddau chwaraeon…mae rhywbeth ar gael i bawb!
I ddechrau, beth am gael cipolwg ar ein hadran rhestr ddigwyddiadau ar ei newydd wedd.
Os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei restru ar wefan Joio Bae Abertawe AM DDIM, gallwch gyflwyno’ch digwyddiad i ni drwy’r ffurflen syml hon.
Yn olaf, os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod, dilynwch ein cyfrifon Twitter, Facebook ac Instagram am ddyddiadau digwyddiadau, newyddion, cwisiau a phethau difyr eraill! 🙂
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English