Bydd Xhosa Cole, y sacsoffonydd o Birmingham, yn dod ag elfen cŵl i Proms yn y Parc y BBC pan fydd yn dychwelyd i Abertawe’r hydref hwn.
Bydd Cerddor Jazz Ifanc y BBC 2018 yn perfformio ym Mharc Singleton nos Sadwrn 14 Medi, gyda’i sacsoffon, i gyflwyno ei arddull hyfryd, arobryn o jazz.
Mae Cole, sy’n 22 oed ac yn hanu o Handsworth, wedi perfformio gydag ensembles megis yr Ensemble Jazz a’i bedwarawd ei hun, sef y CharCole Collective, sy’n perfformio cerddoriaeth sy’n archwilio hanes diwylliannol Birmingham.
Er mwyn ennill teitl Cerddor Jazz Ifanc y BBC yn 2018, roedd rhaid i Cole berfformio set 16 munud o hyd gyda band cefndir tri aelod. Roedd perfformiad Xhosa’n cynnwys cerddoriaeth gan arwyr jazz, John Coltrane a Johnny Green, yn ogystal â’i waith ei hun, Moving Ladywood.
Gallwch brynu tocynnau ar gyfer Proms yn y Parc y BBC, yn Abertawe, ar-lein nawr.
Ydych chi’n edrych ymlaen at glywed sain cŵl Cole? Cymerwch gip ar ei waith ar ein rhestr chwarae ar Spotify.