Mae’r Elyrch, yr Hwylbont a Sioe Awyr Cymru’n ymddangos mewn rhai o ddyluniadau creadigol newydd sy’n cystadlu i fod yn emoji swyddogol #Abertawe2021.
Gosododd y tîm sydd y tu ôl i gais Dinas Diwylliant 2021 Abertawe’r her wahanol o ddylunio emoji i gynrychioli cais Abertawe am Ddinas Diwylliant y DU 2021 i fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Bydd yr emoji buddugol yn cael ei ddewis o’r chwech sydd wedi’u dewis ar gyfer y rhestr fer ar 13 Tachwedd.
Mae gofyn nawr i’r cyhoedd bleidleisio dros ei hoff emoji #Abertawe2021 drwy fynd i www.abertawe2021.co.uk. Bydd y dyluniad sy’n derbyn y mwyafrif o bleidleisiau’n cael ei ddewis fel emoji swyddogol y cais, yn cael ei rannu gan filoedd yn ystod yr ymgyrch ac – os bydd Abertawe’n fuddugol – yn ystod cyfnod y ddinas fel Dinas Diwylliant y DU 2021.
Meddai Frances Jenkins o Abertawe 2021, “Mae’n bleser gennym lansio’r gystadleuaeth ddyfeisgar hon ac mae wedi bod yn bleser gweld pobl ifanc o PCYDDS yn cymryd yr her mewn modd mor frwdfrydig.
“Gallwch weld o rai o ddyluniadau’r rhestr fer pa mor eiconig yw nodweddion Abertawe – o frand Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe i Dŵr Meridian, o’r môr ym Mae Abertawe i Sioe Awyr Cymru Abertawe. Mae’r pethau hyn wedi dod yn rhan o’n DNA diwylliannol ac mae’n dda eu gweld mewn rhai o’r dyluniadau emoji deniadol hyn.
“Mae mwy na 5,000 o bobl eisoes wedi pleidleisio yn www.abertawe2021.co.uk a byddwn yn annog pawb i ddewis ei hoff ddyluniad cyn i’r cyfle i bleidleisio ddod i ben am 9am ddydd Llun 13 Tachwedd, er mwyn i Abertawe 2021 gael emoji y mae pawb am ei rannu.
“Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer o emojis â thema Gymreig – o faner Cymru, i balod Ynys Skomer, i’n hoff air yng Nghymru – tidy – i’r ddraig goch, wedi eu hychwanegu at eiriadur yr emojis. Edrychaf ymlaen at lansio emoji #Abertawe2021.”