
Bydd ysbrydion, ellyllon a bwganod o bob oedran yn gwisgo’u dillad gorau ac yn mynd i Gastell Ystumllwynarth fis yma pan fydd y lleoliad hanesyddol enwog yn agor ei ddrysau ar gyfer Nos Galan Gaeaf.
Nid oes lle gwell i dreulio Nos Galan Gaeaf na’r castell bwganllyd ar y bryn, yn chwilio am yr Arglwyddes Wen enwog sy’n cerdded trwy’r claddgelloedd ac ar hyd hen goridorau’r castell.
Fel arfer mae Castell Ystumllwynarth yn cau ar ddiwedd mis Medi, ond o ganlyniad i’w boblogrwydd, bydd yn agor bob penwythnos yn ystod mis Hydref, gan orffen gyda’r digwyddiadau arswydus ar ddiwedd y mis.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Castell Ystumllwynarth yw un o’n hatyniadau hanesyddol mwyaf poblogaidd ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer antur Nos Galan Gaeaf oherwydd ei hanes sy’n dyddio’n ôl 800 o flynyddoedd.
“Gall ymwelwyr ddod wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau arswydus a dod o hyd i’w ffordd trwy gladdgelloedd y 12fed ganrif a’r hen goridorau. Bydd y digwyddiad yn llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i bobl brofi’r castell gyda’r nos.”
Mae tri slot amser ar gael ar 30 a 31 Hydref ac mae’r digwyddiad yn addas i bobl 9+ oed (mae’n rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn).
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth
Mae tocynnau’n costio £8 ac yn cynnwys diod siocled poeth yng Nghanolfan Ostreme; Consesiynau (9-16 oed) £6.50; Tocyn Teulu (2 oedolyn, 2 blentyn) £25.