Date/Time:
Date(s) - 26/09/2019 - 15/03/2020
10:00 am - 4:30 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
O Monet i Maradona
I ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas, mae’r Glynn Vivian yn cyflwyno Straeon Abertawe, arddangosfa a fydd yn cynnwys y detholiad mwyaf o’n casgliad parhaol a arddangoswyd erioed. Mae casgliad yr oriel yn cynnwys gwaith o’r 18fed ganrif hyd at ein hoes fodern ac mae’n cyflwyno portread eclectig ac unigryw o’r ddinas: y dirwedd newidiol sydd wedi ysbrydoli artistiaid am ganrifoedd, o fryniau serth canol y ddinas a thirluniau cyfagos Townhill, Mayhill, y Mwmbwls a Dynfant, i’n morlin hyfryd.
Mae dwy brif ran i’r arddangosfa a defnyddiwyd y themâu bras Pobl a Lleoedd Abertawe. Mae Pobl a Lleoedd Abertawe‘n cynnwys portreadau o’r cyfoethog a’r enwog, megis y gantores opera Adelina Patti, y bardd Vernon Watkins, ac Arglwydd Feiri’r gorffennol yn ogystal â gweithwyr megis glowyr, casglwyr cocos a gweithwyr y dociau – a hyd yn oed ein ci annwyl, Jac Abertawe. Bydd strydoedd Abertawe, ei morlin hyfryd a’i diwydiant hefyd yn ymddangos, o dirweddau amaethyddol i fomio canol y ddinas; caiff rhan fawr o Abertawe ei chynnwys yma.
Mae’r rhan arall o’n arddangosfa, sef Ffefrynnau Abertawe, yn gasgliad o’r gwaith y mae pobl yn gofyn i’w weld mwyaf, naill ai drwy sgyrsiau gyda’n tîm blaen tŷ neu drwy arolygon cynulleidfa a thrwy’r wefan. Yn yr adran hon rydym yn dathlu peth o’n gwaith enwocaf gan artistiaid rhyngwladol clodwiw megis Gwen John, yr Argraffiadwyr Ffrengig Claude Monet a Lucien Pissarro, yn ogystal â phortread papier-mâché o’r chwaraewr pêl-droed Diego Maradonna a wnaed gan 100 o blant o Ysgol Pen-lan yn y 1980au.
Caiff yr arddangosfa hon ei churadu’n llac yn fwriadol er mwyn osgoi cyflwyno unrhyw thema gyffredinol, i greu lle ar gyfer eich straeon chi ac i ddathlu’r casgliad hwn, sy’n eiddo i bobl Abertawe. Yn ystod yr arddangosfa, rydym am glywed eich straeon a’ch atgofion chi; rydym am ddathlu diwylliant a chreadigrwydd Abertawe yn yr ystyr ehangaf.
Categories No Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English