Date/Time:
Date(s) - 03/12/2018
12:45 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Croesawn Huw Tregelles Williams i Neuadd Brangwyn am y trydydd datganiad a’r un olaf o’n cyfres o ddatganiadau organ amser cinio ar gyfer tymor yr hydref.
Ganwyd Huw yn Nhre-gŵyr ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanelli.
Yn ystod ei astudiaethau ôl-radd, recordiodd sawl datganiad ar gyfer Radio 3 ac aeth ymlaen i ymuno â’r BBC fel cynhyrchydd cerddoriaeth. Fe’i penodwyd yn Bennaeth Cerddoriaeth BBC Cymru ym 1985 ac yn brif Gyfarwyddwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a oedd newydd gael ei hehangu a’i hail-enwi, ym 1993. Roedd yn y swydd hon am dros 15 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn cymerodd ran mewn 11 cyfres gerddoriaeth ar gyfer BBC1 a BBC2 a sawl taith cerddorfa i leoliadau mawreddog yng Ngogledd America, Japan, yr Undeb Sofietaidd a ledled Ewrop.
Sefydlodd recordiadau CD, allgymorth addysg a nawdd sylweddol fel nodweddion rheolaidd o waith y gerddorfa ac aeth ati hefyd i gomisiynu gwaith newydd gan dair cenhedlaeth o gyfansoddwyr rhyngwladol ac o Gymru.
Mae wedi cynhyrchu cyfres o raglenni teledu yn trafod organau Ewropeaidd hanesyddol ar gyfer S4C yn ogystal â chyflwyno cyngherddau agoriadol yn Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, datganiadau yn Neuadd y Dref, Sydney ac Eglwys Gadeiriol St. Paul, a chynhyrchiad arbennig o Songs of Praise gan y BBC o Neuadd Frenhinol Albert i ddathlu adferiad yr organ Willis.
Ym 1998 dyfarnwyd OBE iddo ac fe’i wnaed yn Gymrawd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am ei wasanaethau i gerddoriaeth yng Nghymru, sydd wedi cynnwys bod yn aelod o’r Coleg Celfyddydau a Chyngor y Coleg Organyddion Brenhinol.
Cofiwch, mae Bar Frank ar agor i gynnig lluniaeth ysgafn cyn ac ar ôl y datganiad.
Tocynnau
Am ddim.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English