Date/Time:
Date(s) - 27/07/2019
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Maent wedi bod yn cyfuno’r darnau gorau o fersiynau byw a stiwdio’r caneuon poblogaidd i gyflwyno sioe deyrnged fythgofiadwy gan ail-greu sain a theimlad Steely Dan.
Gyda band naw aelod gwych, mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys amrywiaeth trawiadol o ganeuon sy’n ategu’r clasuron bythol megis Peg, Josie, Aja a Reeling in the years.
Mae Steely Dan yn un o’r bandiau mwyaf eiconig o America. Maent wedi gwerthu dros 40 miliwn o albymau ers i’r arloeswyr cerddorol, Donald Fagan a Walter Becker, gydweithio am y tro cyntaf ym 1972. Gan gyfuno jazz, pop traddodiadol ac R&B, ynghyd â chynhyrchiad stiwdio soffistigedig â geiriau cryptig ac eironig, mwynhaodd y band lwyddiant beirniadol a masnachol ysgubol ac mae eu cerddoriaeth mor boblogaidd nawr ag erioed.
Tocynnau: £26.50
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English