Date/Time:
Date(s) - 04/12/2017
11:00 am
Location: Theatr y Grand Abertawe
Wrth iddo ddosbarthu’r anrhegion, mae ei fola’n rymblan, yn byrlymu ac yn griddfan ond mae Siôn Corn yn gwybod bod rhaid iddo gadw popeth y tu mewn – dyw e ddim am ddihuno pawb! Mae TaleGate Theatre Productions yn cyflwyno’r cyfuniad perffaith o hiwmor ffraeth, cerddoriaeth wych a’r elfen arbennig ychwanegol y maent yn adnabyddus amdani erbyn hyn yn yr addasiad cerddorol hynod ddoniol a sionc o stori ddilynol Nicholas Allan i ‘Father Christmas Needs a Wee!’
Mae’r sioe gerdd hon wedi cael ei chynhyrchu gan y tîm a gyflwynodd y sioe gerdd Nadoligaidd ‘Father Christmas Needs a Wee!’ sydd wedi cael llwyddiant ysgubol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin ac ar deithiau ledled y DU dros y pum mlynedd diwethaf y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer. Gyda ‘Father Christmas Comes Up Trumps!’, mae TaleGate Theatre Productions wedi llwyddo unwaith eto i gael y cyfuniad perffaith o hiwmor ffraeth, cerddoriaeth wych a’r elfen arbennig ychwanegol y maent yn adnabyddus amdani erbyn hyn yn yr addasiad cerddorol hynod ddoniol a sionc hwn o’r gyfres boblogaidd iawn o lyfrau gan Nicholas Allan.
Tocynnau: £12.50, Plant £10.50, Ysgol £8.00, Teulu (4) £42.00
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories