Date/Time:
Date(s) - 25/09/2018 - 10/11/2018
11:00 am - 5:00 pm
Yr artist o Brydain, Fiona Banner neu The Vanity Press, sy’n edrych ar bosibiliadau a chyfyngiadau iaith ysgrifenedig, ac ar natur geiriau a sut y gallan nhw fod yn annigonol. Bu ganddi ddiddordeb ers tro byd mewn rhyfel a’r iaith sy’n gysylltiedig â’r maes. Mae hi’n aml yn gweithio o dan y llysenw The Vanity Press, sef argraffnod cyhoeddi arbrofol a sefydlwyd ganddi yn 1997.
Yn y ffilm Buoys Boys, mae cylchoedd mawr, a’r rheini ar ffurf atalnodau llawn o wahanol fathau o deip, yn arnofio ar y môr. I gyd-fynd â’r ffilm ceir trac sain sy’n adlais o Snoopy Vs The Red Baron, y gân bop o 1966. The Red Baron oedd llysenw Manfred Von Richthofen, y peilot drwg-enwog o’r Almaen yn ystod y Rhyfel Mawr a wnaeth enw iddo’i hun yn sgil nifer y dynion ifanc a laddwyd ganddo yn ystod y brwydro, ac am gael cryn fwynhad yn gwneud hynny, yn ôl pob sôn.
Mynediad
Dydd Mawrth – dydd Sul, 11am – 5pm. Am ddim.
Categories