Date/Time:
Date(s) - 29/09/2018 - 30/09/2018
11:00 am - 3:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Diwrnodau agored GRAFT: maes llafur sy’n seiliedig ar bridd – prosiect gardd newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; comisiwn gan Nawr yr Arwr/Now the Hero a’r amgueddfa, yn gweithio gyda’r artist Owen Griffiths. GRAFT: maes llafur sy’n seiliedig ar bridd, sef system newydd o addysgeg ymarferol sy’n canolbwyntio ar fodel gwely uchel a stiwdio greu sydd wedi’i hadeiladu at y diben. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, mae’r ardd yn adnodd newydd ar gyfer yr amgueddfa lle mae cwricwlwm rhwng y cenedlaethau o ddysgu a chreu yn yr awyr agored yn cael ei gysylltu â bwyd a chydweithio.
Cefnogir y prosiect gan Cae Tan, prosiect amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned ym mhenrhyn Gŵyr, yn ogystal â grwpiau a phartneriaethau lleol eraill. Dewch i gwrdd â’r artist arweiniol, Owen Griffiths, a’r gymuned sy’n rhan o’r prosiectau, wrth iddynt gynnal penwythnos agored ar gyfer yr ardd gyda lluniaeth, teithiau tywys ac arddangosiadau o’r prosiectau a’r prosesau sydd ar waith yn yr ardd.
Hefyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau bydd cyfle i weld arddangosfa The Munitionettes yn y Golofnres a’r arddangosfa Yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf yn Oriel y Wal Goch.
Mynediad am ddim.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English