Date/Time:
Date(s) - 16/11/2018 - 06/01/2019
All Day
Location: Museum Park
Ni fyddai’r Nadolig yn Abertawe yn gyflawn heb ymweliad â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau!
Daethoch yn llu i fwynhau atyniad gaeafol arobryn Abertawe y llynedd ac rydym yn mawr obeithio mai ein 13fed flwyddyn fydd yr orau erioed, wrth i Barc yr Amgueddfa (ar dir Amgueddfa Genedlaethol y Glannau) gael ei drawsnewid i wledd aeafol unwaith eto.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n agor ar gyfer tymor y gaeaf ar 16 Tachwedd am 5pm a bydd ar agor tan 6 Ionawr 2018.
Yn newydd ar gyfer 2018! Er mwyn cadw’r sglefrwyr yn sych ac i wneud yn siŵr na fydd y glaw’n difetha’ch hwyl, bydd ein llyn iâ Admiral poblogaidd dan do eleni, felly gallwch fwynhau sglefrio o gwmpas y llyn iâ ym mhob tywydd!
Gwisgwch eich sgidiau sglefrio a mwynhewch y teimlad Nadoligaidd wrth i chi sglefrio o gwmpas gan wrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd ac edmygu’r goleuadau’n pefrio.
Rydym am i bawb fwynhau sglefrio a chyda thipyn o gymorth gan ein pengwiniaid sglefrio difyr, bydd rhai bach yn sglefrio mewn dim o dro ac mae ein sesiynau hygyrchedd hamddenol yn sicrhau bod y llyn yn addas i bawb.
Mae prisiau’n dechrau o £7 ac maent yn rhatach wrth eu prynu ymlaen llaw.
Man gan y ffair hwyl Nadoligaidd i deuluoedd amrywiaeth o reidiau sy’n addas i bawb – gan gynnwys Sky View, Snow Storm a reid Ice Extreme newydd i’r rheiny sydd am brofiad llawn adrenalin a’r carwsél traddodiadol i’r rhai y mae’n well ganddynt reid fwy hamddenol.
Mae ein Holwyn Fawr hefyd yn dychwelyd oherwydd galw mawr – eisteddwch yn ôl a mwynhewch olygfeydd o Fae Abertawe yn ystod y dydd neu’r nos.
Ac os yw hyn i gyd yn codi awydd bwyd arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i ardal fwyd newydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau am eich hoff ddanteithion Nadoligaidd!
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yw’r lle perffaith i ddathlu’r Nadolig.
Cyflwynir gan Sayers Amusements ac 11th Hour Events mewn cyweithrediad â Cyngor Abertawe
Categories
- Digwyddiadau Arbennig
- Digwyddiadau i Deuluoedd
- Diwylliant
- Ionawr
- Music
- Rhagfyr
- Tachwedd
- Tymor Nadolig
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English