Date/Time:
Date(s) - 07/12/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Mae Killer Queen wedi bod yn perfformio ei gyngerdd teyrnged i Queen ers 1993
Mae arbenigedd cerddorol, egni anhygoel a phortread cywir Killer Queen o fand byw gorau’r byd wedi ennill enw iddo fel teyrnged frenhinol Queen.
Gan wefreiddio cynulleidfaoedd llawn ar draws y byd, o’r DU i Fosgo, mae Killer Queen yn ail-greu ffenomen egnïol a grymus perfformiad byw Queen.
Patrick Myers yw’r prif ganwr sy’n cymryd rôl Freddie Mercury, y mae ei debygrwydd i’r arwr yn ‘annaearol’ yn ôl ‘Time Out’, a phrofwyd hyn ymhellach pan recordiodd sengl rhif un gan ganu fel Freddie Mercury ar record Fat Boy Slim, ‘The Real Life!’
Mae’r safon hon, wedi’i chyfuno ag ystod tenor 3 1/2 wythfed bwerus, dawn gerddorol arbenigol a phresenoldeb dynamig ar y llwyfan wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd.
Cefnogir Patrick gan ei fand pedwar aelod ardderchog a ddewiswyd yn arbennig i efelychu Brian May, John Deacon a Roger Taylor, ynghyd â set lwyfan ysblennydd, gwisgoedd trawiadol ac effeithiau arbennig penigamp – mae Killer Queen yn llwyddo i gyfleu steil a chyffro cyngerdd byw gan Queen.
“Peidiwch â cholli’r dyn yma” Golygydd www.BrianMay.com Gwefan swyddogol Brian May.
Mae eu perfformiad trydanol yn rhychwantu gyrfa recordio gyfan Queen, o Seven Seas of Rhye i’w clasuron yn y 90au.
Mae Killer Queen wedi teithio yn yr Iseldiroedd, Estonia, Gwlad Belg, Dubai, Mosgo, Madrid, Portiwgal, Prague, Sorrento ac mae’n un o’r ffefrynnau rheolaidd yn Cannes.
Mae wedi perfformio gyda Wilson Pickett, Ian Dury and the Blockheads, Mica Paris a’r Bootleg Beatles. Cydnabuwyd statws byd-eang y band gan y diwydiant cerddoriaeth pan gyflwynodd ‘Madness’ deitl ‘Band Teyrnged Byd-eang y Flwyddyn’ iddo ym 1999.
Cyngerdd gwerth ei weld yn wir!
Tocynnau: £23.50
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English