Date/Time:
Date(s) - 24/10/2018 - 27/10/2018
7:15 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Dewch ar daith hudol gydag Abbey Players wrth iddynt ddod â’r sioe gerdd ddifyr fendigedig hon i’r teulu’n fyw 50 o flynyddoedd ar ôl creu’r ffilm glasurol
Sioe brynhawn Sad 2.15pm
Ymunwch â’r dyfeisiwr, Caractacus Potts, ei ddau blentyn, Jeremy a Jemima ac, wrth gwrs, Truly Scrumptious, wrth iddynt anturio yn eu car hedegog, Chitty, yr holl ffordd i Vulgaria er mwyn achub Grandpa, trechu’r Barwn a’r Farwnes ddrygionus ac achub y plant rhag y Daliwr Plant!!
Gyda chaneuon bythgofiadwy o Sherman Brothers (Mary Poppins) megis ‘Hushabye Mountain’, ‘Chu-Chi face’, ‘Toot Sweets’ ac, wrth gwrs, ‘Chitty Chitty Bang Bang’, ynghyd â seren y sioe ei hun, Chitty, mae hon yn sioe wych na fyddwch am ei cholli!
Tocynnau: £15.50 – £19.50 Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Ffôn: 01792 475715
Ni allwch archebu tocynnau ar-lein ar gyfer Theatr y Grand Abertawe o 8.30am Dydd Llun 22 Hydref tan nos Mawrth 23 Hydref oherwydd gwaith cynnal a chadw cynlluniedig. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English