Date/Time:
Date(s) - 17/11/2017 - 21/12/2017
9:30 am - 5:30 pm
Mae’r cabanau gwyrdd a choch traddodiadol yn dychwelyd i Stryd Rhydychen o ddydd Gwener 17 Tachwedd i ddydd Iau 21 Rhagfyr. Byddant ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 10.00am a 5.00pm ar ddydd Sul. Bydd dros 40 o fasnachwyr yn cynnig detholiad gwych o gelf, crefft, bwydydd blasus, addurniadau hyfryd ac anrhegion unigryw.
Bydd hefyd masnachwyr newydd bob wythnos mewn nifer o gabanau felly byddwch yn siwˆ r o ddod o hyd i rywbeth newydd ar bob ymweliad ac yn ticio popeth oddi ar eich rhestr siopa mewn dim o dro. Mae casgliad gwych hefyd o fwydydd Nadoligaidd blasus i’ch cadw i fynd a bar Nadolig lle gallwch ymlacio gyda gwin y gaeaf. Bydd y plant yn dwlu ar ymweld â Groto Siôn Corn ar Stryd Portland a bydd y teulu cyfan yn sicr o gael diwrnod allan gwych!
Categories No Categories