Date/Time:
Date(s) - 12/08/2017
All Day
Location: Parc Singleton
Mae LHG Live ac Orchard Entertainment yn falch o gyhoeddi y bydd Parc Singleton yn croesawu Olly Murs ddydd Sadwrn 12 Awst, lle bydd yn perfformio fel rhan o’i daith haf enfawr ar draws y DU.
Gan ddilyn ei daith arena yn ystod y gwanwyn, mae Olly Murs, un o sêr mwyaf cerddoriaeth Prydain, yn cyhoeddi ei sioeau mwyaf hyd yn hyn; 20 sioe awyr agored ar draws y DU, yn dechrau ddydd Gwener 2 Mehefin tan ddydd Sadwrn 19 Awst, gyda mwy o fanylion i ddod.
Meddai Olly Murs, “Rwy’n hynod hapus i berfformio ym Mharc Singleton, Abertawe. Mae sioeau awyr agored yn llawer o hwyl, ac rwyf yn edrych ymlaen at berfformio fy nghaneuon mwyaf poblogaidd ar gyfer fy nhaith awyr agored mwyaf!”
Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddiannus i Olly Murs – dathlodd ei bedwerydd albwm arobryn, ’24 HRS’, gan ddod yn artist unigol mwyaf llwyddiannus sydd erioed wedi deillio o’r X Factor. Y record sengl ‘Years and Years’ yw canolbwynt yr albwm newydd; cân syfrdanol ac iasol sy’n dilyn y ffefrynnau ‘You Don’t Know Love’ a ‘Grow Up’, a berfformiwyd gan Olly ar The X Factor yn ddiweddar.
Cyn ei daith haf enfawr yng ngwanwyn 2017 bydd Olly’n perfformio 23 sioe yn y DU, gan gynnwys 3 sioe yn yr O2 a noson agoriadol sioeau’r Ymddiriedolaeth Canser Arddegwyr, gan gadarnhau ei enw da fel un o berfformwyr byw gorau Prydain. Ers i Olly ddod yn enwog yn 2009, mae wedi recordio pedwar albwm aml-blatinwm a chynhyrchu 4 record sengl rhif 1 ac mae cyfanswm gwerthiant ei recordiau dros 10 miliwn. ’24 HRS’ yw’r albwm sy’n dilyn yr albwm clodwiw ‘Never Been Better’, sydd wedi gwerthu miliwn o gopïau.
Mae tocynnau ar gyfer Taith Haf Olly Murs
Pris y tocynnau yw: £39.50 a ffi archebu (mynediad cyffredinol) a £55 a ffi archebu (ardal blatinwm). Ewch i wefan pob lleoliad am fwy o fanylion am y lleoliad a phris y tocyn.
www.ollymurs.com
www.ticketmaster.co.uk
www.lhgtickets.com
Mae’r holl docynnau’n docynnau sefyll.
Mae tocynnau anabl ar gael yn uniongyrchol o’r lleoliad
Categories No Categories