Date/Time:
Date(s) - 17/06/2018
3:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Mae’r gantores o’r Iseldiroedd Judith Nijland, a’r gitarydd o’r Weriniaeth Tsiec, Libor Šmoldas, yn ymuno â’i gilydd mewn prosiect newydd o’r enw “Songs of Wes”.
Mae’r deyrnged hon i’r gitarydd jazz enwog, Wes Montgomery, yn adrodd ei stori gan gyflwyno’i ganeuon gwreiddiol. Ysgrifennodd Judith eiriau teimladwy, a chreodd Libor drefniannau bendigedig. Gyda’i gilydd maent yn talu eu teyrnged greadigol a cherddorol i etifeddiaeth fawr y dyn.
Mae Judith a Libor yn ymweld â’r DU am y tro cyntaf gyda’i gilydd yng Ngŵyl Jazz Abertawe a bydd perfformwyr gwych yn ymuno â nhw.
Judith Nijland (NL)- llais
Libor Šmoldas (CZ)- gitâr
Pieter Althuis (NL) – bas dwbl
Paul Smith (UK) – drymiau
Wes Montgomery
Gitarydd jazz enwog o America yw Wes Montgomery (1923 – 1968) ac yn ystod y 1950au a’r 1960au, diffiniodd gitâr jazz modern. Dysgodd ei hun sut i chwarae’r gitâr a datblygodd dechneg chwarae anghyffredin gan ddefnyddio’i fawd yn hytrach na phlectrwm. Dylanwadodd ar genedlaethau o chwaraewyr a oedd yn ei ddilyn, eiconau gitâr fel George Benson, Pat Martino, John Scofield, Pat Metheny a Lee Ritenour.
Cydweithrediad rhwng Judith a Libor
Cyflwynwyd Judith a Libor i’w gilydd yn Awstralia. Roeddent ar eu teithiau unigol ym mis Ionawr 2017 ac fe’i gwahoddwyd i gynnal cyngerdd gyda’i gilydd gan gerddorion jazz oedd yn adnabod y ddau. Ac felly, ganed y cydweithrediad. Yn ôl yn ei chartref yn Ewrop, dechreuodd Judith y prosiect Songs of Wes a phenderfynodd yn syth bod rhaid i Libor ymuno â hi.
Talu teyrnged i Wes
Daeth Judith o hyd i gerddoriaeth Wes ychydig flynyddoedd yn ôl pan glywodd hi ‘Road Song’, cân wreiddiol Wes. Cwympodd hi mewn cariad â’r gân, ychwanegodd eiriau ati a’i recordio ar CD yn 2013. Ar gyfer y prosiect Songs of Wes, trefnodd Judith ganeuon gwahanol Wes yn ofalus, o’i fywyd cynnar i’w flynyddoedd hŷn, ac ysgrifennodd eiriau i gyd-fynd â hwy.
Gwnaeth Libor drefniannau gwych ac ysgrifennodd ei gân ei hun i anrhydeddu Wes. Meddai Libor, “O’r holl gitarwyr gwych yn hanes jazz, mae Wes yn arbennig iawn i mi. Dwi’n ei ystyried fel arweinydd mawr gitâr jazz. Fe yw’r person y dylech droi ato er mwyn dysgu sut i chwarae jazz ar y gitâr. Roeddwn yn falch iawn pan awgrymodd Judith i mi chwarae ei gerddoriaeth ac rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r prosiect hwn.”
Libor Šmoldas
Praha yw cartref Libor Šmoldas, un o gitarwyr jazz gorau Ewrop.
Yn ogystal â chydweithio â cherddorion blaengar y Weriniaeth Tsiec ac Ewrop, mae wedi gweithio, teithio a recordio gyda sêr rhyngwladol megis y chwaraewyr gitâr fas Jay Anderson a George Mraz, y drymwyr Jeff Ballard ac Adam Nussbaum, yr oganwyr Sam Yahel, Ondrej Pivec a Brian Charette a’r sacsoffonydd enwog Bobby Watson.
Mae wedi rhyddhau nifer o albymau fel arweinydd ac fel cyfeilydd.
Er ei fod yn ifanc o hyd, yn 35 oed, ystyrir bod Libor yn un o’r cerddorion jazz gorau yn y Weriniaeth Tsiec ac yn arwr i’w genhedlaeth. Mae adolygwyr cerdd yn gwerthfawrogi ei ymagwedd lyfn ac alawol sydd wedi’i chefnogi gan ei gariad at jazz.
Tocynnau: £10
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Prynu tocynnau yma
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories