Date/Time:
Date(s) - 04/05/2019
11:00 am - 5:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Oes gennych chi gynlluniau ar gyfer penwythnos gŵyl banc Calan Mai? Cynhelir y digwyddiad trawiadol Pride Abertawe eleni ddydd Sadwrn 4 Mai.
Mae’r diwrnod yn addo bod yn uchafbwynt yng nghalendr Abertawe, wrth i’r ddinas fwyaf cyfeillgar yn ne Cymru ddathlu hanner can mlynedd fel dinas. Bydd rhywbeth i bawb yn nathliad eleni, gyda chyfres o ddigwyddiadau teithiol yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr ei hun.
Gorymdaith Pride Abertawe | Canol y ddinas
O 11am
Daw gorymdaith fywiog a lliwgar i strydoedd Abertawe o 11am, gyda llwybr drwy ganol y ddinas (manylion o’r llwybr i ddilyn).
Mae croeso i bawb gymryd rhan! Dangoswch eich balchder yng Ngorymdaith Pride Abertawe eleni drwy ymuno â chefnogwyr LGBT+ wrth iddynt ddawnsio, cerdded a gorymdeithio drwy ganol Abertawe.
Os oes gennych grŵp o ffrindiau neu gydweithwyr, neu os ydych yn rhan o grŵp/sefydliad a hoffai ymddangos yn yr orymdaith, cofrestrwch yn swanseapride.co.uk i ddod o hyd i fwy o wybodaeth a chadw eich lle!
Dathliadau Pride Abertawe | Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Pharc yr Amgueddfa
O 12pm
Bydd dathliadau Pride yn parhau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 12pm, gydag amrywiaeth o stondinau, gweithgareddau i bobl o bob oedran gan gynnwys gemau, paentio wynebau a defnyddio pefr, digwyddiadau teithiol a pherfformiadau/adloniant byw ar ddau lwyfan i gadw’r dathliadau a’r hwyl i fynd!
Mae’r perfformwyr a’r adloniant yn cynnwys-
-Gwesteion a pherfformiadau o Swansea Pride Hits the Dancefloor
-Band Samba
-Siaradwyr Gwadd
-Perfformwyr Drag Anhygoel
-Cantorion o’r West End
-Perfformwyr Teyrnged
-The Wow Dolls
-Côr True Colours
-The Gay Men’s Chorus
A’r seremoni i goroni Brenin a Brenhines Pride Abertawe 2019!
Bydd Gŵyl Bwyd Stryd Abertawe hefyd yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa ar gyfer y penwythnos (rhwng 12 ganol dydd a 10pm o ddydd Sadwrn 4 i ddydd Llun 6 Mai) – gallwch ddisgwyl yr un aroglau, blasau a hwyl â’r llynedd, ond yn fwy ac yn well!
____________________________________________________________________
Pride Abertawe 2019
Mae digwyddiad eleni’n addo bod yn fwy cynhwysol ac amrywiol nag erioed o’r blaen a byddwn yn croesawu’ch cefnogaeth a’ch cyfranogiad fel unigolyn, teulu neu fusnes. Fel trosolwg, dathliad cynyddol i’n dinas yw Pride Abertawe, a allai fod yn hynod gadarnhaol ar gyfer y ddinas ynghyd â busnesau a thwristiaeth; gallai ddenu pobl i Abertawe ac mae ef wirioneddol yn destun balchder i’r HOLL breswylwyr ac ymwelwyr.
Rydym yn eich gwahodd i ymuno ym mudiad enfys eleni i ddangos eich cefnogaeth ac ymgysylltu â’n cymuned, wrth i chi gefnogi unrhyw staff, ffrindiau, teulu neu gydweithwyr sy’n rhan o’r gymuned LGBT+, a chefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein dinas.
Mae sawl ffordd i chi gymryd rhan:
– Mae croeso i chi, wrth gwrs, ddod i’r digwyddiad ar y prif ddiwrnod
– Gallwch fwynhau’r adloniant ar Lawnt yr Amgueddfa Genedlaethol (y prif safle ar gyfer y dathliad)
– Gallwch ddod i ddigwyddiad ar thema Pride sy’n cyd-fynd â’r dathliad rhwng 30 Ebrill a 5 Mai (cynhelir digwyddiadau amrywiol ar draws canol y ddinas yn ystod wythnos Pride)
– Gallwch chi fod yn feiddgar ac yn greadigol drwy gymryd rhan yng Ngorymdaith Pride wrth iddi fynd drwy ganol y ddinas
– Mae croeso i chi gofrestru i gynnal stondin ar safle Pride Abertawe (Amgueddfa Genedlaethol y Glannau) ddydd Sadwrn 4 Mai drwy e-bostio swanseapride@gmail.com neu info@swanseapride.co.uk
LAWRLWYTHWCH ARWEINIAD PRIDE ABERTAWE 2019
LAWRLWYTHWCH BOSTER PRIDE ABERTAWE 2019
I gael y rhestr lawn o ddigwyddiadau Pride Abertawe a gynhelir rhwng dydd Mawrth 30 Ebrill a dydd Sul 5 Mai, ewch i swanseapride.co.uk
Digwyddiadau a gynhelir yn ystod wythnos Pride (dydd Mawrth 30 Ebrill – dydd Sul 5 Mai):
Categories
- Addysgiadol
- Bwyd a diod
- Comedi
- Digwyddiadau i Deuluoedd
- Diwylliant
- Free
- Gweithgareddau
- Mai
- Mai
- Music
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English