Date/Time:
Date(s) - 11/06/2019
7:30 pm
Location: Sgwâr y Castell
Mae tymor Sgriniau Mawr BP yn dychwelyd i Sgwâr y Castell ar gyfer 2019!
Mae cariadon anffodus Shakespeare yn dod wyneb yn wyneb â thrasiedi yng nghampwaith bale 20fed ganrif Kenneth MacMillan. Dewch i fwynhau diwylliant am ddim ar garreg eich drws: gwyliwch Y Bale Brenhinol ar lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol yn y darllediad byw hwn ar Sgrîn Fawr BP sy’n agos atoch chi.
Gall pawb yn Abertawe fwynhau diwylliant am ddim ar garreg eu drws pan fydd Sgriniau Mawr BP y Tŷ Opera Brenhinol yn cael eu gosod mewn 24 lleoliad allweddol ar draws y DU yr haf hwn, gan gynnwys yn Sgwâr y Castell. Dewch â phicnic a gwyliwch y perfformiadau clasurol canlynol yn fyw gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Rhannwch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio @royaloperahouse a’r stwnshnodau #ROHromeo
Bydd Sgwâr y Castell ar agor i bawb. Dewch â chlustogau a blancedi er mwyn bod yn gyfforddus. Bydd bwyd a diod ar gael o fangreoedd lleol; neu mae croeso i chi ddod â’ch picnic eich hun. Dylid cael gwared ar unrhyw wastraff yn y biniau a ddarperir neu fynd ag ef adref. Gwisgwch yn briodol ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Er budd diogelwch y cyhoedd, bydd yr amodau canlynol yn berthnasol yn Sgwâr y Castell:
- Bydd mynediad i’r digwyddiad ar sail y cyntaf i’r felin, yn amodol ar y lle sydd ar gael
- Bydd gan stiwardiaid y digwyddiad ganiatâd i chwilio drwy eiddo unigolion wrth iddynt fynd i mewn i’r digwyddiad. Ni fydd staff yn gyfrifol am unrhyw eitemau gwaharddedig
- Mae eitemau gwaharddedig yn cynnwys gwydr, parasolau mawr, gasebos, cysgodlenni a barbeciwiau tafladwy, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r rhain.
- Mae’r trefnwyr yn cadw’w hawl i wrthod mynediad i’r digwyddiad am ba reswm bynnag
Rhan o Dymor Sgriniau Mawr BP y Tŷ Opera Brenhinol ar gyfer 2019
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English