Date/Time:
Date(s) - 15/12/2018
11:00 am - 1:00 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Nick Owen (Prifysgol Abertawe) fydd yn rhoi sgwrs ddifyr ar y saethwyr di-ail fu farw ochr yn ochr â’r morwyr ar long flaenaf Harri VIII. Gyda Changen Abertawe’r Gymdeithas Hanes.
Suddodd y llong oddi ar Spithead yn y Solent ym 1545 wrth arwain ymosodiad ar lynges Ffrainc. Bu’n gorffwys ar wely’r môr tan 1982, pan gafodd ei chodi a’i harddangos i’r cyhoedd.
Llwyddodd ymchwilwyr i adnabod y saethwyr o olion straen cyson yn ysgwyddau ac esgyrn cefn y cyrff.
Nick Owen yw’r biogemegydd chwaraeon ac ymarfer corff arweiniodd yr ymchwil hwn gan helpu i ddatgelu mwy am y gwŷr fu farw ar fwrdd y llong.
Cynhelir y sgyrsiau bob 3ydd Sadwrn y mis..
https://amgueddfa.cymru/abertawe/digwyddiadau/10361/Saethwyr-Llong-Ryfel-y-Mary-Rose/
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English