Date/Time:
Date(s) - 08/12/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Mae cynhyrchwyr Sing-a-Long-a Sound of Music yn dod â fersiwn o’r ffilm glasurol gyda John Travolta a Olivia Newton-John i chi a gallwch ymuno yn y gân
Ydych chi erioed wedi eisiau gwybod sut brofiad yw bod yn T-bird neu’n Pink Lady ond dydych chi ddim wedi teimlo’n ddigon cŵl i’w wneud? Wel, dyma’ch cyfle i wisgo’r siacedi pinc hynny, iro’r blaengudynnau hynny ac anghofio am eich swildod ar gyfer noson lle mai chi yw’r sêr a chofiwch mai GREASE yw’r gair…
Bydd y noson yn dechrau wrth i’ch cyflwynydd arwain sesiwn ganu gychwynnol cyn iddo ddangos i chi sut i ddefnyddio’ch bag celfi rhyngweithiol am ddim. Bydd hyd yn oed gennych gyfle i ddysgu sut i wneud jeif dwylo.
Yna, gallwch eistedd a gwylio Danny a Sandy a’r criw, gan ganu a dawnsio wrth i’r geiriau gael eu dangos ar y sgrîn.
Mae’n hawdd… ac yn hwyl! Rydym yn eich annog i wisgo gwisg ffansi ac mae cyfranogiad llawn gan y gynulleidfa’n hanfodol.
Tocynnau: £17.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English