Date/Time:
Date(s) - 27/11/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Mae’r ‘Russian State Ballet’ and Opera House’ yn cyflwyno bale moethus tymor yr wŷl
Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky. Yn cynnwys cerddorfa fyw gyda thros 30 o gerddorion.
‘For many people, The Nutcracker is the true curtain-raiser to Christmas, bringing a special magic to the advent season. This production holds nothing back in any department, and the audience was rewarded with a show of great power and presence.’ – Jim Gillespie, Review Hub.
Ni fyddai’r Nadolig yr un peth heb daith i’ch theatr leol i weld cynhyrchiad syfrdanol o fale enwocaf y byd – The Nutcracker.
Mae’r ‘Russian State Ballet and The Opera House’ yn dychwelyd ar gyfer eu taith flynyddol draddodiadol i’r DU gyda chynhyrchiad bale llawn sy’n fywiog ac yn hudol.
Cwympiadau eira, losin, tywysogion, hudoliaeth a chariad yw rhai o’r elfennau sy’n cael eu cyfuno gan y cwmni enwog hwn o Rwsia. Mae’n bale sy’n addas i bawb gyda digonedd o gerddoriaeth gyfarwydd, fel Waltz of the Flowers a Dance of the Sugar Plum Fairy.
Ffefryn tragwyddol y tymor yw The Nutcracker sydd wedi’i gyfarwyddo a’i goreograffu gan Konstantin Uralsky, cyn-unawdydd arobryn yBale Bolshoi.
Mae’r bale yn parhau i swyno pob cenhedlaeth ledled y byd. Mae’n ddarn hudolus o theatr, yn gyflwyniad gwych i fale ac ar yr un pryd yn parhau i apelio at y rhai sy’n gyfarwydd ag ef.
Tocynnau: £28.00 – £35.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English