Date/Time:
Date(s) - 06/12/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Yn syth o’r West End yn Llundain, You Win Again – Dathliad o Gerddoriaeth y Bee Gees
Paratowch i brofi sain unigryw un o’r bandiau gorau sydd erioed wedi perfformio ar lwyfan yn y cyngerdd ysblennydd bythgofiadwy hwn. Ymdrochwch yng ngherddoriaeth y brodyr trwy’r chwe degau, y saith degau a’r wyth degau – gan gynnwys caneuon a gyfansoddwyd ganddynt ar gyfer artistiaid megis Celine Dion, Diana Ross a Dolly Parton.
Mae’r cyngerdd syfrdanol hwn yn eich tywys ar daith gerddorol hudol trwy eich hoff ganeuon, gan gynnwys Night Fever, Stayin’ Alive, More Than A Woman, You Should Be Dancing, How Deep is Your Love?, Jive Talkin’, Tragedy, Massachusetts, Words, I’ve Got to Get a Message to You, Too Much Heaven, Islands in the Stream, Grease, If I Can’t Have You a llawer mwy.
Mae’r cynhyrchiad hynod ffyddlon hwn yn sicrhau bod etifeddiaeth anhygoel o glasuron poblogaidd yn parhau.
Tocynnau: £24.50
Ffôn: 01792475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English