Date/Time:
Date(s) - 28/10/2017
10:00 am
Location: Sgwâr y Castell
O 10.00am, ddydd Sadwrn 28 Hydref dewch i ymuno â ni ar gyfer dathliad Calan Gaeaf gwefreiddiol nad ydych wedi gweld ei debyg erioed yn Abertawe. Dewch i brofi ysbryd y ffair!
Am un diwrnod yn unig, caiff canol dinas Abertawe a Sgwâr y Castell eu trawsnewid yn faes bwganod, gyda sioe FYW a fydd yn cynnwys ambell gymeriad arswydus fel cylchfeistr iasol, yn ogystal â jamborî a fydd yn cynnig miri mawr i’ch plant bach.
Ceir paentio wynebau erchyll a’ch hoff gemau ffair bleser i gyd, ynghyd â’r cyfle i roi cynnig ar Sgiliau Syrcas Gwirion megis mynd am dro dychrynllyd ar raff dynn a phrofi cyffro troelli platiau. Yna sicrhewch eich bod yn adfer eich egni cyn yr Orymdaith Garnifal Wallgof drwy fwynhau danteithion dihafal megis candi-fflos ysgytiol, afalau taffi arswydus a mwy!
Ydych chi’n teimlo’n frawychus? Beth am roi cynnig ar ein gêm newydd a chyffrous i ddod o hyd i “Sgrechwr Cryfaf Abertawe”? Gorffennwch eich diwrnod gyda Sombis Zumba a chymerwch ran yn Orymdaith Garnifal Wallgof Abertawe. Dewch i brofi ysbryd y ffair!
Os ydych chi’n mwynhau gwisgo i fyny* – fel brenhines y carnifal neu frenin y tywyllwch; os ydych chi’n mwynhau dawnsio fel bwgan; neu os ydych chi’n mwynhau holl ddanteithion y carnifal – dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau; a chewch brofiad Calan Gaeaf bythgofiadwy!
*Anogir gwisgo i fyny, ond nid yw’n orfodol
Categories No Categories