
Date/Time:
Date(s) - 26/10/2019
10:00 am - 4:00 pm
Location: Swansea City Centre
Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i Abertawe’r calan gaeaf hwn gyda digwyddiad Dawns yr Angenfilod sy’n addo diwrnod gwych AM DDIM i’r holl angenfilod yn eich teulu!
Rhaglen Adloniant
11am tan 4pm: Llwyfan dros dro Jermin Productions, Stryd Portland – y prif lwyfan ar gyfer holl adloniant Ysbrydion yn y Ddinas a fydd ar gael drwy gydol y dydd.
11am tan 4pm: Llwyfan dros dro The Wave, Sgwâr y Castell – llwyfan perfformio arall yng nghanol y ddinas a fydd yn cynnig rhaglen amrywiol o gantorion, perfformwyr stryd a chystadlaethau.
11am tan 4pm: Man tynnu lluniau yr Angenfilod, Sgwâr y Castell – dewch i ddangos eich dannedd i’r camera yn y bwth lluniau. Mae angenfilod yn mwynhau hunlun hefyd!
11am tan 4pm: Gorsaf Gweddnewid i Anghenfil– dewch i gwrdd â’r Tîm Gweddnewid a fydd yn cynnig paentio wynebau eich plant er mwyn gwneud eich angylion bach yn angenfilod arswydus go iawn!
11am tan 4pm: Gemau Stryd Dawns yr Angenfilod – gyda gwobrau gwych i’w hennill!
11am tan 4pm: Modelu Balwnau Bwystfilaidd – dewch i greu eich anghenfil eich hun gyda’r Modelwr Medrus.
11am tan 4pm: Chwarae Cuddio – casglwch eich cliwiau o lwyfan Jermin Productions a chwiliwch am yr angenfilod sy’n cuddio yng nghanol y ddinas. Gallwch ennill wobr!
12pm, 1.30pm a 3pm: Amser stori Arswydus ar Drên Bwganod Nos Galan Gaeaf, Stryd Rhydychen – dewch ar Drên Bach y Bae, a fydd wedi’i drawsnewid yn arbennig ar gyfer yr achlysur, a gallwch glywed detholiad o straeon arswyd megis ‘How to Catch a Monster!’, ‘Room on a Broom’ a ‘Monsters Love Underpants’.
12.15pm, 2pm a 3.15pm: Fflachgriw Dawns yr Angenfilod – Dewch i ddawnsio gydag Angenfilod Abertawe! Dawnsiwch i’r gerddoriaeth ac ymunwch yn yr hwyl.
Categories
- Calan Gaeaf
- Digwyddiadau Arbennig
- Digwyddiadau i Deuluoedd
- Free
- Gweithgareddau
- Gwyliau'r Ysgol
- Hydref
- Music
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English