Example fydd prif berfformiwr cyngerdd Club MTV ym Mharc Singleton Abertawe ddydd Sadwrn 24 Medi.
Rhai o ganeuon y canwr, y cyfansoddwr, y rapiwr a’r cynhyrchydd caneuon yw ‘Changed the way you kiss me’ a ‘Stay awake’.
Aeth ei ail albwm stiwdio, ‘Won’t go quietly’, hefyd i frig siart dawns y DU.
Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gydag MTV i ddod â’r gyngerdd i’r ddinas.
Sêr eraill sydd eisoes wedi’u cadarnhau ar gyfer y cyngerdd yw Sigma, Nero, Professor Green, Jonas Blue a Redlight. Bydd lle i hyd at 20,000 o bobl yn y cyngerdd a fydd yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth fyw.
£15 yn unig yw pris y tocynnau (yn ogystal â ffi archebu o £1.50), a gellir eu prynu naill ai ar wefan Ticketmaster yn www.ticketmaster.co.uk neu o siop Derricks Music ar Stryd Rhydychen. Mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym, felly mae pobl yn cael eu hannog i’w prynu’n fuan er mwyn osgoi siom.
Rhai o ganeuon mwyaf llwyddiannus Professor Green yw Read All About It, gydag Emeli Sandé; I Need You Tonight, gydag Ed Drewett; a Just Be Good To Green, gyda Lily Allen.
Rhai o ganeuon llwyddiannus Jonas Blue, cynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain, yw Fast Car, gyda Dakota, a gyrhaeddodd rif dau yn siart senglau’r DU; a Perfect Strangers, gyda JP Cooper, a gyrhaeddodd rif dau yn siart senglau’r DU hefyd.
Mae Redlight, troellwr disgiau o Fryste, yn ffefryn y sîn gerddoriaeth danddaearol, ac mae ei ganeuon llwyddiannus yn cynnwys Switch it Off, Get Out Of My Head a Lost In Your Love.
Mae R3WIRE a Varski, perfformwyr preswyl Club MTV ac egin sêr sîn EDM y DU, hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer y cyngerdd ym Mharc Singleton.
DEWCH I FOD YN RHAN O CLUB MTV ABERTAWE
I godi’ch awydd, mae R3wire wedi creu cymysgedd unigryw sy’n cynnwys yr holl artistiaid sy’n dod i Abertawe ar 24 Medi. Mae’n cynnwys 2 drac gan bob un o’r artistiaid perfformio a gyhoeddwyd hyd yn hyn!!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English