Mae llawer yn digwydd yng Nghastell Ystumllwynarth eleni. Os ydych yn mwynhau diddanu’r teulu yn yr awyr agored gydag ychydig o hanes byw, cymerwch gipolwg isod. Dros y blynyddoedd diweddar mae’r castell wedi derbyn gwaith cadwraeth er mwyn sicrhau bod y strwythur yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Bellach, gallwch archwilio rhannau cudd o’r castell nas gwelwyd am ganrifoedd a dysgu am hanes cyffrous y castell. Mae nodweddion yn cynnwys graffiti hynafol o’r 14eg ganrif, y ddrysfa ganoloesol o ddaeargelloedd dwfn, grisiau cudd a golygfeydd dros Fae Abertawe o’r bont wydr 30 troedfedd o uchder.
Cynhelir digwyddiadau ac arddangosfeydd trwy gydol y flwyddyn:
- Dydd Sadwrn 23 Mai Diwrnod Hanes Byw
- Dydd Mercher 27 Mai Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Mercher 22 Gorffennaf Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf Diwrnod Hwyl Archaeoleg
- Dydd Mercher 29 Gorffennaf Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Llun 3 Awst Drama: The Reluctant Dragon
- Dydd Mercher 5 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Gwener 7 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Mercher 12 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Gwener 14 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Mercher 19 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Gwener 21 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Sadwrn 22 Awst Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd
- Dydd Mercher 26 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Gwener 28 Awst Hwyl gyda Chrefftau i Blant
- Dydd Llun 31 Awst Diwrnod Hwyl i’r Teulu
- Dydd Sadwrn 12 Medi Drysau Agored
- Dydd Sadwrn 31 Hydref Parti’r Ysbrydion Calan Gaeaf
Pennawd y llun: Diwrnod Archaeoleg yn Ystumllwynarth
Pennawd y llun: Ystumllwynarth mewn heulwen hyfryd
Pennawd y llun: Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd yng Nghastell Ystumllwynarth
Pennawd y llun: Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn Ystumllwynarth
Pennawd y llun: ‘Diwrnod Hanes Byw’ yn Ystumllwynarth
Roedd yr wybodaeth hon yn gywir wrth fynd i’r wasg. Dylech wirio a chadarnhau’r holl fanylion cyn ymweld â’r castell.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English